Cwnselydd Ysgol

£12,777 - £13,419 a year

Cyngor Gwynedd

Bangor

Awst 14, 2025

Temporary

Disgrifiad o'r Cwmni

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth  cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth  

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. 

 

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. 

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.) 

 

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dora Wendi Jones ar 07881 986 338 neu drwy e-bost: [email protected]

 

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH 

Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected] 

 

DYDDIAD CAU:  10:00 O’R GLOCH, 14/08/2025

 

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus 

 

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn  yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.  Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio  eich  E-BOST yn rheolaidd. 

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Darparu Gwasanaeth Cwnsela i blant a phobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd, chynradd a’r gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Gliniadur a ffon symudol

Prif ddyletswyddau

Gwasanaethu fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cwnsela effeithlon, proffesiynol a statudol ar gyfer plant a phobl ifanc pan a fel bo angen.

Darparu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb a/neu rithiol ar gyfer yr unigolion hynny yr ystyrir fyddai’n elwa o gwnsela: