Customer Relations Apprenticeship
Living wage
Transport for Wales (TFW)
Pontypridd
Mawrth 8, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Byddwch yn chi eich hun
Byddwch yn rymus
Byddwch yn Brentis Trafnidiaeth Cymru
Prentisiaeth Cysylltiadau Cwsmeriaid
Math o gontract: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am ddwy flynedd
**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Ein Hacademi Prentisiaeth
Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosib mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa.
Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru.
Y Swydd
Cefnogi’r gwaith o ddarparu profiad cadarnhaol a chyson i gwsmeriaid drwy helpu i reoli ymholiadau, adborth, a chwynion cwsmeriaid, a chyfrannu at y gwaith o wella gwasanaethau. Bydd y Prentis Cysylltiadau Cwsmeriaid yn symud o un maes busnes perthnasol i’r llall, er mwyn datblygu dealltwriaeth ehangach o ofynion a gweithgareddau gweithredol.
Cyfrifoldebau’r swydd
- Byddwch yn delio’n broffesiynol â galwadau sy’n cael eu huwchgyfeirio o’n canolfan gyswllt, gan ddatrys problemau yn ystod y cyswllt cyntaf lle bo hynny’n bosibl, ac uwchgyfeirio pryderon cymhleth i’r timau priodol neu uwch aelodau’r tîm, gan sicrhau bod pob achos yn cael ei drin yn effeithiol ac yn unol â pholisïau’r cwmni.
- Byddwch yn ysgrifennu ymatebion o ansawdd da i’n cwsmeriaid drwy ddilyn tôn, amserlenni, a chanllawiau cynnwys y cwmni i gyfathrebu’n glir ac yn gywir er mwyn sicrhau bod yr holl ymatebion i’n cwsmeriaid yn bodloni ein safonau ansawdd ac yn darparu profiad cyson.
- Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio i achosion cwsmeriaid drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, fel cysylltu ag adrannau mewnol eraill a rhanddeiliaid yn y diwydiant, a defnyddio systemau’r diwydiant i feithrin dealltwriaeth well o’r amgylchiadau perthnasol.
- Byddwch yn darparu profiad rhyngweithiol atyniadol ac addysgiadol i gwsmeriaid ar lwyfannau cyfryngau ar-lein drwy ymateb i negeseuon a phostio diweddariadau pwysig mewn ffordd gyfeillgar ac agos-atoch, yn unol â llais ein brand i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein strategaeth cyfryngau cymdeithasol ehangach a chryfhau ymgysylltiad â chwsmeriaid.
Am beth rydyn ni’n chwilio
- Gallu gweithio i dargedau mewn amgylchedd prysur gyda nifer o flaenoriaethau.
- Sgiliau rheoli amser a threfnu da.
- Pasio’r profion yn y broses ymgeisio gychwynnol. Mae’r profion hyn yn cael eu defnyddio i edrych am gysondeb â’n gwerthoedd, ein hymddygiad a’n priodoleddau craidd fel prentisiaid, sydd i gyd i’w gweld uchod.
- Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2026.
*Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y maen nhw wedi’u rhestru yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
A yw’n addas i mi?
I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi.
- Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer swyddi sydd â chyfrifoldebau diogelwch hollbwysig.
- Ni ddylech fod eisoes wedi ennill cymhwyster ar lefel debyg neu uwch na’r brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi ymgeisio am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.
- Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer prentisiaeth os ydych wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster arall/yn gweithio tuag at gymhwyster arall, oherwydd mae’r brentisiaeth yn swydd lawn-amser gydag ymrwymiadau astudio.
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn yn eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch yn llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod.
Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) fel adnodd dysgu, rydyn ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth AI. Os byddwn yn canfod cynnwys sydd wedi’i baratoi gan ddefnyddio AI, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus.