Customer Operations Apprenticeship

Living wage

Transport for Wales (TFW)

Newport

Mawrth 8, 2026

Course / Training

Disgrifiad o'r Cwmni

Byddwch yn chi eich hun 

Byddwch yn rymus 

Byddwch yn Brentis Trafnidiaeth Cymru 

 

Prentisiaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid  

Math o gontract: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am ddwy flynedd  

**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.** 

Ein Hacademi Prentisiaeth 

Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosib mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa. 

Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru. 

Y Swydd 

Bydd y Prentis Gweithrediadau Cwsmeriaid yn ymgymryd â rhaglen ddiffiniedig am ddwy flynedd, gan gyfuno dysgu ffurfiol a phrofiad ymarferol a fydd yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni prosiectau Gweithrediadau Cwsmeriaid ledled Cymru. 

 Cyfrifoldebau’r swydd 

  • Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o gymwyseddau gweithredol drwy gysgodi tasgau lle mae diogelwch yn hollbwysig a lle nad yw diogelwch yn hollbwysig, i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch profiad yn yr orsaf. 
  • Byddwch yn cefnogi gorsafoedd a chyfnewidfeydd bysiau, drwy helpu cwsmeriaid ac ymateb i heriau gweithredol fel tarfu, er mwyn cefnogi’r gwaith o adfer gweithrediadau’n ddidrafferth. 
  • Byddwch yn cyfrannu at orfodi polisïau tocynnau wrth y gatiau ac yn y swyddfa docynnau, drwy gyflawni tasgau fel gwirio tocynnau, i gefnogi’r gwaith o ddiogelu refeniw. 
  • Byddwch yn gwirio gwybodaeth i gwsmeriaid mewn amrywiaeth o leoliadau, fel ar blatfformau a thrwy ein ap ar-lein, gan sicrhau bod gwybodaeth i gwsmeriaid yn gywir, yn berthnasol ac yn gyfredol. Bydd y canfyddiadau hyn wedyn yn cael eu defnyddio i roi gwybod i randdeiliaid allweddol (gan gynnwys Rheoli) am y newidiadau angenrheidiol i wasanaeth i gwsmeriaid. 

 Am beth rydyn ni’n chwilio 

  • Awydd i ddysgu ac i ddatblygu eich gwybodaeth am weithrediadau trafnidiaeth gyhoeddus. 
  • Sgiliau TG gyda gwybodaeth dda am feddalwedd Microsoft Office. 
  • Pasio’r profion yn y broses ymgeisio gychwynnol. Mae’r profion hyn yn cael eu defnyddio i edrych am gysondeb â’n gwerthoedd, ein hymddygiad a’n priodoleddau craidd fel prentisiaid, sydd i gyd i’w gweld uchod. 
  • Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2026. 

*Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y maen nhw wedi’u rhestru yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.   

A yw’n addas i mi? 

I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi. 

  • Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer swyddi sydd â chyfrifoldebau diogelwch hollbwysig.   
  • Ni ddylech fod eisoes wedi ennill cymhwyster ar lefel debyg neu uwch na’r brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi ymgeisio am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.   
  • Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer prentisiaeth os ydych wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster arall/yn gweithio tuag at gymhwyster arall, oherwydd mae’r brentisiaeth yn swydd lawn-amser gydag ymrwymiadau astudio.  

Sgiliau Cymraeg 

(Newidiwch yn unol â phob swydd, boed Sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol) 

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais. 

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol. 

Cyfle Cyfartal 

Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio. 

Pwy ydyn ni  

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic. 

Y camau nesaf 

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol. 

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn yn eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn. 

Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch yn llwyddiannus. 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. 

Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosib. 

Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, rydyn ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth AI. Os byddwn yn canfod cynnwys sydd wedi’i baratoi gan ddefnyddio AI, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus. 

Customer Operations Apprenticeship