Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio

£44,075 - £46,142

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mehefin 19, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaeth polisi cynllunio a dyletswyddau cysylltiedig ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Cyngor Gwynedd

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Arwain y Tîm i sicrhau fod dyletswyddau sydd yn ymwneud a polisi cynllunio, cynllunio mwynau a gwastraff a rheolaeth o’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn (AHNE) yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol y Tîm

Cyfrifoldeb am offer cyfrifiadurol personol

Prif ddyletswyddau

Arwain ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd, i sicrhau Cynllun sydd yn cyd-fynd a’r gofynion statudol ac yn cyfarch anghenion cymunedau’r ardal yn gymdeithasol, economaidd ac yn amgylcheddol ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn cynnwys arwain, cydlynu, paratoi a chyflwyno:

sail tystiolaeth ar gyfer papurau testun

dogfennau a chyflwyniadau ar gyfer yr ymgynghoriadau cyhoeddus statudol yn ogystal a sesiynau briffio ar gyfer Aelodau Etholedig

tystiolaeth ar gyfer yr archwiliad cyhoeddus

Arwain a gweithredu ar y trefniadau ar gyfer cydweithio gyda Thîm Cyfathrebu’r Cyngor i sicrhau fod Cynllun Cyfathrebu effeithiol mewn lle ar gyfer y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol a gwaith y Gwasanaeth

Arwain a chydlynu a chysoni lle’n briodol y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol gyda strategaethau a dogfennau polisi eraill sydd wedi, neu yn cael eu paratoi gan y Cyngor, gan awdurdodau cyfagos, ar lefel rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Arwain ar waith comisiynu’r Tîm a chymryd trosolwg o waith ymgynghorwyr mewn cysylltiad â’r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ac adnabod cyfleoedd i gomisiynu gwaith ar y cyd gydag awdurdodau eraill lle’n briodol,

Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, arwain y broses o fonitro, adolygu a diwygio’r Cynllun.

Arwain y gwaith o baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (ar ôl ei fabwysiadu).

Arwain ar y gwaith o weithredu’r holl weithdrefnau sydd yn bwydo i mewn i fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Gwynedd ac Ynys Mon) mewn partneriaeth gydag Ynys Mon, er mwyn sicrhau fod Adroddiad Monitro Blynyddol ar y cyd (1 AMB) yn cael ei baratoi yn flynyddol hyd at mabwysiadu’r Cynllun newydd, yn unol a’r gofynion statudol.

Yr uchod i gynnwys arwain ar y gwaith o fonitro’r Canllawiau Cynllunio Atodol ac hefyd y broses o baratoi unrhyw Ganllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig / newydd i gefnogi polisïau’r Cynllun Lleol ar y Cyd cyfredol.

Cydweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cynllunio ac arwain ar y gwaith o roi cyngor polisi arbenigol ar gynigion, ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio a gorfodaeth, gan gynnwys rhoi tystiolaeth, yn ogystal ac arwain ar sicrhau mewnbwn y Gwasanaeth Cynllunio, i’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ac unrhyw Ganllawiau Cynllunio Atodol.

Arwain a gweithredu ar drefniadau gwaith cyson i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion polisi cynllunio i Adrannau / Gwasanaethau Gwynedd, Aelodau Etholedig a chwsmeriaid eraill y Gwasanaeth.

Arwain ar ddarparu ymateb ar ran Gwynedd i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill perthnasol.

Arwain a chydlynu mewnbwn Gwynedd i ddyletswyddau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig (Gogledd Cymru) mewn cysylltiad a’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Strategol, i geisio sicrhau fod y Cynllun yn cwrdd a blaenoriaethau ac anghenion Gwynedd.

Arwain ar y gwaith o ddatblygu, paratoi, monitro ac adolygu Cynllun Rheolaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a hyrwyddo polisïau a gweithrediadau i hybu, gwarchod a gwella’r AHNE.

Arwain ar y gwaith dydd i ddydd yn y maes cynllunio mwynau a gwastraff, sydd yn cynnwys mewnbwn arbenigol ar faterion polisi cynllunio yn ymwneud a mwynau a gwastraff yn y Cynllun Datblygu Lleol, mewnbwn i strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol, delio gyda ceisiadau cynllunio perthnasol, gwaith monitro a gorfodaeth, cynnig cyngor cynllunio ac apeliadau cynllunio / gorfodaeth – gyda hyn fel rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru.

Arwain ar waith o baratoi a chyflwyno adroddiadau i’r Cabinet, Tîm Arweinyddiaeth, Cyngor Llawn, ac unrhyw Bwyllgor, Is-bwyllgor, Panel neu Fforwm, sydd yn gysylltiedig a dyletswyddau’r Tîm.

Arwain ar brosiectau a gwaith ymchwil sydd yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor (e.e. Ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr) ac arwain / cynrychioli Gwynedd ar dimau prosiect a chyfarfodydd sirol, traws-sirol, rhanbarthol a chenedlaethol, sydd yn cyffwrdd â maes gwaith a dyletswyddau y Tîm.

Rheoli a chydlynu rhaglenni gwaith a chyllidebau’r Tîm.

Arwain y gwaith o gyfrannu at ddatblygu a gweithredu amcanion a pholisïau mewn strategaethau a chynlluniau corfforaethol y Cyngor.

Arwain y gwaith o gyfrannu at dimau prosiect trawsadrannol a thraws sirol er mwyn cyfrannu at y gwaith o gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol, gwaith polisi cynllunio cysylltiedig a dyletswyddau eraill y Gwasanaeth.

Dirprwyo ar ran y Rheolwr Polisi Cynllunio ar faterion perthnasol i’r Gwasanaeth.

Cynorthwyo’r Rheolwr Polisi Cynllunio i sicrhau fod dyletswyddau’r Gwasanaeth yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Cyfrifoldeb proffesiynol dros fonitro datblygiad a pherfformiad staff y Tîm ac i baratoi a gweithredu rhaglen hyfforddiant.

Monitro perfformiad y Tîm a chyfrannu tuag rheoli perfformiad y Gwasanaeth yn unol a’r trefniadau corfforaethol y Cyngor.

Cynorthwyo’r Tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Diogelu Data) a sicrhau eu bod yn cadw atynt.

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

Cyfarfodydd sydd tu allan i’r oriau gwaith arferol yn achlysurol.

Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio

Yn ôl i swyddi