Arbenigwr Dogfennau
£26000
Gaming Labs International
Bangor
Awst 28, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Arbenigwr Dogfennau
Tra’n darparu gwasanathau i’r diwydiant casino a gamblo ers dros 30 mlynedd, mae GLI wedi sefydlu tîm o weithwyr proffesiynol na ellir ei gyfateb. Rydym yn chwilio am Arbenigwr Dogfennau i gefnogi ein tîm QA.
Lleoliad: Swyddfa Bangor, Gogledd Cymru (swyddfa yn unig).
Pwy Ydym Ni…
Gyda dros 30 mlynedd yn y diwydiant, mae Gaming Laboratories International
(GLI) yn arweinydd byd-eang ym maes profi a tystysgrifio dyfeisiau a systemau gamblo. Rydym yn falch o’n sefydlogrwydd a’n hanes o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf i fwy na 480 o awdurdodaethau ledled y byd.
Pam Dylech Chi Weithio Yma…
Mae ein gweithwyr wrth galon popeth a wnawn, a dyna pam mai nhw yw ein buddsoddiad mwyaf. Rydym yn cynnig cyflogau cystadleuol, buddion rhagorol ac amgylchedd gwaith sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad gweithwyr a gwella gyrfa. Mae ein timau’n cael y cyfle i gyfathrebu a chydweithio gyda chydweithwyr o bob cwr o’r byd.
Beth Fyddwch Chi’n ei Gyflawni Yma…
Mae’r Arbenigwr Dogfennau yn gyfrifol am adolygu ffeiliau profi peirianneg i sicrhau cydymffurfiad rheoleiddiol, llunio dogfennau ardystio, prawfddarllen, a chynnal ymchwil gysylltiedig.
Bydd y rôl hon yn cefnogi’r tîm QA yn effeithiol drwy ganolbwyntio ar y canlynol:
- Cynnal dealltwriaeth o’r broses llunio ardystiadau ac ymchwil, gan gynnwys dulliau o gasglu gwybodaeth ofynnol
- Adolygu dogfennaeth peirianneg a gwirio’r nodiadau angenrheidiol
- Gwirio dogfennau peirianneg drwy’r systemau perthnasol
- Cynnal gwybodaeth fanwl o’r gofynion penodol ar gyfer pob cyflwyniad ac awdurdodaeth
- Datrys problemau drwy ddefnyddio dogfennau gan y gwneuthurwr ac ymchwilio cyflwyniadau blaenorol, yn ôl yr angen
- Defnyddio system olrhain ffeiliau (Protrack) a systemau eraill i brosesu adroddiadau materion QA
- Defnyddio offeryn cynhyrchu adroddiadau neu dempled(au) adroddiadau i greu drafftiau ardystio
- Cwblhau ardystiadau drwy wneud y newidiadau angenrheidiol, llwytho’r adroddiadau terfynol i’r archif, a’u symud i statws cymeradwy yn ein Cronfa Ddata
Addysg, Profiad a Sgiliau:
- Gradd Baglor mewn Saesneg, y Gyfraith neu ddisgyblaeth berthnasol debyg
- Gall profiad cyfatebol o 2+ flynedd gael ei ystyried; gall ardystiad, hyfforddiant ffurfiol, neu brofiad hefyd gael eu hystyried yn lle gofynion addysgol
- Ardystiad Ysgol Fusnes neu Gymhwyso fel Cynorthwyydd Cyfreithiol yn ddymunol
- Isafswm o 2 flynedd o brofiad mewn maes gweinyddol neu gyfreithiol
- Medrusrwydd gyda Microsoft Word, Outlook ac Excel
- Rhaid gallu cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig gydag aelodau eraill o’r tîm a chleientiaid / darpar gleientiaid
- Rhaid gallu darllen, ysgrifennu, siarad, deall a chyfathrebu yn Saesneg yn ddigonol i gyflawni dyletswyddau’r swydd hon
- Rhaid gallu delio â nifer o brosiectau a therfynau amser ar yr un pryd
- Rhaid dangos sylw manwl at ansawdd, manylder a chywirdeb
Rydym yn cynnig buddion taledig rhagorol, gan gynnwys:
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â Gwyliau Banc
- Cynllun Pensiwn
- Bonws Blynyddol Disgresiynol
- Cinio tîm misol
- Cyfle i weithio mewn gweithle amrywiol
- Parcio am ddim ar y safle
Mae Gaming Laboratories International (GLI) yn gwmni gwasanaethau gamblo. Gall fod yn ofynnol i unrhyw un o’n gweithwyr gael trwydded gamblo mewn un neu fwy o awdurdodaethau gamblo. Os gofynnir i chi gan GLI gael trwydded gamblo, gall eich cyflogaeth barhaus ddibynnu ar eich gallu i sicrhau’r drwydded honno.
Ni ddylid dehongli’r disgrifiad swydd hwn fel un hollgynhwysol; bwriad y disgrifiad yw nodi’r prif gyfrifoldebau a’r gofynion ar gyfer y swydd. Gall fod gofyn i’r person sy’n dal y swydd gyflawni tasgau a chyfrifoldebau eraill sy’n gysylltiedig â’r swydd nad ydynt wedi’u nodi uchod.
Ni ddylid dehongli’r disgrifiad swydd hwn fel un hollgynhwysol; bwriad y disgrifiad yw nodi’r prif gyfrifoldebau a’r gofynion ar gyfer y swydd. Gall fod gofyn i’r person sy’n dal y swydd gyflawni tasgau a chyfrifoldebau eraill sy’n gysylltiedig â’r swydd nad ydynt wedi’u nodi uchod.