Arbenigwr Cymorth Cyflogaeth (Cysylltu â’r Gwaith - SEQF)

£35,570 - £37,563 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Tachwedd 3, 2026

Full-time Temporary
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Arbenigwr Cymorth Cyflogaeth (Cysylltu â’r Gwaith – SEQF)

Cyflog: S3 £35,570 – £37,563 y flwyddyn

Oriau: 37 yr wythnos

Dros dro tan 31/03/2028

Lleoliad: Caernarfon

Mae’r penodiad hwn yn amodol ar gadarnhau dyfarnu’r grant yn y lle cyntaf a’i barhad. Er bod y swydd yn cael ei hysbysebu hyd at 31 Mawrth 2028, bydd ei pharhad yn destun adolygiad blynyddol o’r grant, gyda’r posibilrwydd o estyniad blynyddol hyd at 31 Mawrth 2030.

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Byddwch yn gweithio gyda chleientiaid (rheoli llwyth achosion) sydd ag anghenion cymorth iechyd meddwl, i’w cynorthwyo i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy â thâl yn unol â u dewisiadau. Byddwch yn darparu’r dull Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth (SEQF) (y rhoddir hyfforddiant ar ei gyfer); darparu cyngor ac arweiniad sy’n canolbwyntio ar y person i gleientiaid, wrth adeiladu perthnasoedd cadarnhaol â chyflogwyr lleol i alluogi cleientiaid i symud i gyflogaeth addas.
  • Byddwch yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, cyflogadwyedd, tai, addysg a sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau bod unigolion yn cael mynediad at gymorth integredig.

Amgylchiadau Arbennig

  • Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio rhai nosweithiau a phenwythnosau.
  • Dylai deiliad y swydd fod yn meddu ar drwydded yrru lawn a chael mynediad at gerbyd preifat.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu fanylion pellach gellir cysylltu â Kelvin Roberts ar [email protected] neu 01286 679583.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 03/11/2026.

Manylion Person

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Sgiliau ysgogol, cyfathrebu a gwrando da.
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i adeiladu perthynas ag ystod o bobl.
  • Gallu trefnu da.
  • Gallu naturiol i adeiladu perthynas agos, ymddiriedol a chynhyrchiol â phobl.
  • Gallu naturiol o weithio mewn tîm ac i weithio ar y cyd o fewn tîm disgyblaethol cymysg.
  • Y gallu i weithio’n annibynnol a defnyddio menter i ddatblygu a hyrwyddo gwasanaeth.
  • Anfeirniadol a dibynadwy.
  • Empathi ag anghenion y rhai sydd ag anghenion cymorth iechyd meddwl.
  • Angerdd ac awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
  • Wedi’i gymhell yn fawr gyda chred wirioneddol y gall rhywun â chyflwr iechyd meddwl ddod o hyd i gyflogaeth â thâl.

Nodweddion Personol – Dymunol

  • Gwybodaeth am yr asiantaeth fudd-daliadau a’r holl fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd/cyflogaeth.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • Addysgwyd i lefel gradd neu brofiad cyfatebol.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Gwybodaeth o egwyddorion Cyflogaeth â Chymorth, IPS neu Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth (SEQF), neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol.
  • Diploma Lefel 3 mewn Cymhwyster Sector Gwasanaethau Cyflogadwyedd.
  • QCF mewn Cyngor ac Arweiniad (Lefel 3).

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Profiad o gefnogi unigolion sydd ag anableddau, cyflyrau iechyd neu rwystrau sylweddol i gyflogaeth (neu grŵp cleientiaid tebyg o fewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol neu’r sector gwirfoddol).
  • Profiad o weithio gyda rhywun ar sail un-i-un.
  • Profiad o reoli tasgau lluosog ar unrhyw un adeg.
  • Profiad o weithio’n gadarn i ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau.

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Profiad o gefnogi pobl i gael neu gadw gwaith.
  • Profiad o gefnogi unigolion sydd ag anableddau, cyflyrau iechyd neu rwystrau sylweddol i gyflogaeth.
  • Profiad byw personol ei hun o adferiad o anawsterau iechyd meddwl.
  • Mae profiad blaenorol o ddarparu gwasanaeth gan ddefnyddio’r model SEQF yn fonws.
  • Profiad profedig o gyrraedd a rhagori ar ganlyniadau a thargedau.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Dealltwriaeth o’r anghenion cyflogaeth, a’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n profi anawsterau iechyd.
  • Dealltwriaeth o egwyddorion Cyflogaeth â Chymorth a dulliau sy’n canolbwyntio ar y person.
  • Datblygu gwybodaeth am ystod eang o alwedigaethau a swyddi.
  • Yn gallu defnyddio TG ac offer fel MS Word, PowerPoint ac Excel.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Gwybodaeth am yr asiantaeth fudd-daliadau a’r holl fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd/cyflogaeth.

Anghenion Ieithyddol – Hanfodol

  • Gwrando a Siarad – Lefel Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Darllen a Deall – Lefel Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
  • Ysgrifennu – Lefel Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith.)

Arbenigwr Cymorth Cyflogaeth (Cysylltu â’r Gwaith - SEQF)

Yn ôl i swyddi