
Interniaeth Iwan
12 Rhagfyr 2024
Iwan
“Gwna banned arall i ni!”. Rhywbeth doeddwn i’n sicr ddim am glywed yn ystod fy amser fel intern yn Darogan Talent – yn rhannol gan fy mod i’n gweithio o adref, ar-lein, ond yn bwysicach na hynny, gan fod y tîm wedi fy nghroesawu fel aelod pwysig o Darogan Talent ac wedi helpu gwneud yr interniaeth yma’n brofiad amhrisiadwy.
Daeth y syniad o’r interniaeth fyny pan glywais am ddigwyddiad Darogan ym mhrifysgol Warwick tra’n astudio ym mhrifsygol Michigan fel rhan o flwyddyn allan. Yn amlwg, nid oeddwn i’n gallu mynychu felly mi wnes i yrru neges i holi Owain os oedd hi’n bosib cael gwneud interniaeth gyda Darogan gan fy mod i’n chwilio am un fodd bynnag. I mi, mae gweithio i gwmni sydd yn anelu i wneud rhywbeth rydw i’n coelio ynddo yn bwysicach na gweithio i gwmni ariannol mewn dinas mawr.
Ymunais â Darogan ar amser gwych, wythnos cyn dechrau eu cyfres o ddigwyddiadau Darganfod dy Ddyfodol. Roedd yna ddipyn o waith marchnata a pharatoi’r manylion olaf i’r digwyddiadau yn ogystal â bod yn bâr arall o ddwylo yn ystod y digwyddiadau.
Roedd y digwyddiadau eu hunain yn brofiad gwych. Cefais drafeilio ar hyd arfordir Cymru i Gaerfyrddin a Cheredigion i weld y cyfleoedd gwaith sydd ar gael ledled Cymru – agoriad llygaid yn ei hun. Roedd y digwyddiadau yn gyfle am ddatblygiad personol a phroffesiynol i fy hun wrth gael cyfle i sgwrsio gyda chyflogwyr yn y digwyddiadau. Cefais wella fy sgiliau rhwydweithio a chael blas ar beth mae cyflogwyr eisiau gan ymgeiswyr.
Roedd gwneud yr interniaeth o adref yn brofiad diddorol gan ei fod yn olwg ar sut bydd y byd gwaith yn y dyfodol wrth i mi gychwyn ceisio am swyddi yn y misoedd nesaf. Yn ffodus, mae gennym ni swyddfa rithwir sy’n gwneud cyfathrebu yn fwy naturiol a chyfleus yn hytrach na gorfod gyrru e-byst a threfnu cyfarfodydd. Er hyn, y digwyddiadau oedd fy hoff ddyddiau gan fy mod yn cael cyfle i fynd i lefydd newydd a gweithio gyda’r tîm.
Gyda fy amser yn dod i ben yn yr interniaeth, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cael amser gwych ac wedi mwynhau pob profiad, foed o’n ddigwyddiad mawr neu’n dasg syml fel gyrru e-byst. Dwi’n teimlo fy mod i wedi cael cyfle i ddysgu a chael blas ar y byd gwaith lle mae pethau’n mynd yn dda, yn ddrwg a phopeth rhwng y ddau. Mae’r holl brofiad wedi teimlo’n well fyth wrth weithio i gwmni sy’n delio â phroblem sy’n agos i fy nghalon. Hoffwn i ddiolch o waelod calon i Owain, Jack a Gwenno am y cyfle ac am wneud y profiad yn un bythgofiadwy.