Gorllewin Cymru: Yr ardal lle mae’r nifer fwyaf o bobl yn aros yng Nghymru i astudio – Darogan
Picture of a harbour

Gorllewin Cymru: Yr ardal lle mae’r nifer fwyaf o bobl yn aros yng Nghymru i astudio

12 Mai 2024

Owain James


Yr olaf (ond yn sicr nid lleiaf!) yn ein cyfres o flogiau ar ranbarthau Cymru: Gorllewin Cymru!

Gorllewin Cymru yw’r rhanbarth o Gymru sydd â’r cyfraddau isaf o fyfyrwyr sy’n gadael Cymru i astudio, gyda 27.8% yn gadael y wlad i astudio.

Pam?

Gan adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi’i drafod y bostiadau blog diwethaf, mae ganddo’r cymysgedd cywir o ‘ffactorau tynnu’:

  • Dyma’r rhanbarth sydd bellaf i’r Gorllewin, a dyma’r unig ranbarth nad yw’n rhannu ffin â Lloegr.
  • Mae gan ddau o’r Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin Cymru brifysgolion wedi’u lleoli ynddynt – Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Y rhain ochr yn ochr â’r Brifysgol Agored yw’r tri dewis mwyaf poblogaidd ar gyfer myfyrwyr o bob un o bedwar Awdurdod Lleol y rhanbarth
  • Atyniad cryf gan Ardal Adeiledig sylweddol (Dinas Abertawe)
  • Mae gan Gastell-nedd Port Talbot gyfraddau uchel o amddifadedd yn ôl y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae ganddi’r cyfraddau isaf o bobl yn gadael Cymru i astudio o’r Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin Cymru, yn rhannol oherwydd ei bod yn haws gadael Cymru i astudio yn gyffredinol i’r rhai o gefndiroedd cyfoethocach.

Yn ogystal â’r ffactorau hyn, rwyf hefyd yn meddwl bod rhywbeth ychwanegol am leoliad Gorllewin Cymru a’r hyn rwy’n ei alw’n aml yn ardal ‘Elen Benfelen’. Mae myfyrwyr sy’n bwriadu symud i ffwrdd o’u hardal leol i astudio yn dal yn dueddol o beidio â bod eisiau symud yn rhy bell i ffwrdd. Pan fyddaf yn siarad â myfyrwyr maent yn aml yn sôn am chwilio am leoedd heb fod ymhellach na 2-3 awr i ffwrdd o’u man cychwyn ac mae hyn yn cael ei ategu gan y data – Prifysgolion Lloegr sydd agosaf at ffin Cymru yw’r rhai mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr o Gymri ar y cyfan.  Mewn sawl rhan o Dde-ddwyrain Cymru, mae lleoedd fel Caerwysg, Bryste, Caerfaddon, Rhydychen, Reading a Llundain (a’u prifysgolion) yn dod o fewn y radiws 2-3 awr yma. Ond i Orllewin Cymru, mae’r rhan fwyaf o’r prifysgolion sydd o fewn y radiws hwnnw o fewn Cymru ei hun!

Dyna pam, ar ôl y brifysgol sydd wedi’i lleoli yng ngorllewin Cymru, y tair prifysgol fwyaf poblogaidd nesaf ar gyfer pob un o’r Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin Cymru yw’r rhai sydd wedi’u lleoli yn Ne-ddwyrain Cymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru). Yn yr achos hwn, mae’r cysylltiadau trafnidiaeth cryf o’r Dwyrain i’r Gorllewin mewn gwirionedd yn cefnogi cadw pobl yng Nghymru!

Y dewisiadau mwyaf poblogaidd nesaf (gyda niferoedd sylweddol) yw Prifysgol Aberystwyth a phrifysgolion y ddinas agosaf yn Lloegr, Bryste (Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr).

Ond i ailadrodd y pwynt wnes i yn y blogbost diwethaf – er taw dyma’r rhanbarth o Gymru sydd â’r cyfraddau isaf o fyfyrwyr sy’n gadael y wlad i astudio, nid yw hyn yn golygu bod y ffigur hwn yn isel. Mae pedair gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn gadael eu mamwlad i astudio yng Ngorllewin Cymru na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer yr Alban.

Mae dal angen i ni gysylltu â’r 1 o bob 4 myfyriwr o Orllewin Cymru sy’n gadael.