Mehefin 30, 2025 17:30 - 19:30
Ty Hodge, Caerdydd
Wedi’i gynnal ar y cyd gan Darogan a Bute Energy, mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am yrfaoedd yn y sector gwyrdd yng Nghymru.
Bydd cyflwyniadau gan gyflogwyr blaenllaw yn y sector a chyfle i fwynhau lluniaeth wrth rwydweithio. Yn addas i fyfyrwyr, graddedigion, neu rhai sydd eisoes wedi sefydlu yn eu gyrfa – mae croeso i bawb! Cofrestrwch eich lle am ddim heddiw.
Siaradwyr:
Bute Energy
Bute Energy yw’r datblygwr fferm wynt ar y tir mwyaf yng Nghymru, gyda’r nod o osod bron i 200 o dyrbinau gwynt erbyn 2030 i gefnogi targedau ynni glân. Maent yn gweithio ar brosiectau a allai bweru dros 1 filiwn o gartrefi – gan greu rolau newydd ym maes peirianneg, cynllunio, ymgysylltu cymunedol, a mwy. Mae’r cwmni’n rhoi pwyslais cryf ar ymgysylltu cymunedol wrth fynd i’r afael â phryderon sy’n ymwneud ag effaith weledol ac effeithiau amgylcheddol.
CCR Energy
Gyda chefnogaeth Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, mae CCR Energy yn trawsnewid Hen Orsaf Bŵer Aberddawan yn ganolfan ynni glân. Maent yn creu swyddi gwyrdd cyffrous ym meysydd technoleg, arloesedd, a chynaliadwyedd. Eu cenhadaeth yw mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, cryfhau gwytnwch ynni, a meithrin economi gynaliadwy trwy adfywio safle Gorsaf Bŵer Aberddawan.
Diwydiant Sero Net Cymru
Mae Diwydiant Sero Net Cymru yn sefydliad annibynnol sy’n rhoi arweiniad a chefnogaeth i ddiwydiannau Cymru wrth iddyn nhw bontio i ddarparu sero net. Wrth arwain Clystyrau Diwydiannol Cymru — gan gynnwys y Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) sefydledig a’i bartneriaid — maent yn cefnogi aelodaeth gynyddol o sefydliadau’r diwydiant, y byd academaidd, a’r sector cyhoeddus.
Viridor
Mae Viridor yn gweithredu un o gyfleusterau ailgylchu gwastraff ac adfer ynni mwyaf datblygedig y DU, gan gynnwys safle mawr yng Nghaerdydd. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar droi gwastraff yn adnoddau, gan helpu i leihau tirlenwi a chynhyrchu ynni carbon-isel. Gyda gyrfaoedd ym meysydd peirianneg, gwyddor amgylcheddol, logisteg a gweithrediadau, mae Viridor yn chwaraewr allweddol yn yr economi gylchol ac o ran datrysiadau i heriau gwastraff sero-net.
Voltric
Mae Voltric yn gwmni llogi cerbydau trydan sy’n cael ei yrru gan dechnoleg, sydd wedi’i sefydlu gan raddedigion prifysgol. Wedi’i leoli yn Ne Cymru, mae’r cwmni’n anelu at symleiddio perchnogaeth cerbydau trydan a gwneud trafnidiaeth gynaliadwy’n fwy hygyrch. Mae Voltric yn creu cyfleoedd newydd ar y groesffordd rhwng symudedd, technoleg lân ac entrepreneuriaeth—yn ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn arloesi, gwasanaethau digidol a modelau busnes sy’n ystyriol o’r hinsawdd.
Arddangoswyr:
7 Steel
Mae 7 Steel yn wneuthurwr dur sydd wedi’i leoli yn ne Cymru, ac wedi ymrwymo i drosglwyddo i weithgynhyrchu dur gwyrddach drwy ddefnyddio ffwrneisi bwa trydan. Nod y newid hwn yw lleihau allyriadau carbon a chreu proses gynhyrchu dur fwy cynaliadwy. Mae’r cwmni’n cymryd rhan weithredol yn y gymuned ac yn cefnogi mentrau sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a thwf economaidd.
Dŵr Cymru | Welsh Water
Cwmni di-elw yw Dŵr Cymru sy’n darparu gwasanaethau dŵr ledled Cymru ac sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth. Maent wedi ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol ac wedi gweithredu amrywiaeth o fentrau i leihau eu hôl troed carbon. Mae’r cwmni hefyd yn canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedol ac addysg i hyrwyddo cadwraeth dŵr a stiwardiaeth amgylcheddol.
Siltbuster
Siltbuster yw prif ddarparwr y DU o ddatrysiadau trin dŵr ar gyfer y sectorau adeiladu, diwydiannol a bwrdeistrefol. Gyda’i bencadlys yn Nhrefynwy, mae’r cwmni’n canolbwyntio ar ddiogelu’r amgylchedd drwy dechnolegau arloesol sy’n trin dŵr halogedig ac yn cefnogi cydymffurfiaeth â rheoliadau amgylcheddol. Mae eu gwaith yn chwarae rhan hollbwysig wrth leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr ledled y DU.
Green GEN Cymru
Mae Green GEN Cymru yn dylunio ac yn darparu llwybrau ynni gwyrdd ar draws Cymru. Eu cenhadaeth yw adeiladu a gweithredu rhwydwaith ddosbarthu ynni 100% adnewyddadwy sy’n cysylltu cartrefi, ysgolion, ysbytai, busnesau a chymunedau. Trwy fynd i’r afael â’r argyfyngau ynni, hinsawdd a chostau byw, maent yn anelu at rymuso cymunedau gwledig drwy fuddsoddi mewn seilwaith, creu swyddi, a datblygu sgiliau—gan gefnogi’r trawsnewid i ffordd o fyw drydanol, lân a modern ledled y wlad.
Savills
Mae Savills yn ddarparwr gwasanaethau eiddo tiriog byd-eang gyda phresenoldeb cryf yng Nghymru. Mae’r cwmni’n cefnogi cleientiaid ar draws tir, eiddo ac ymgynghoriaeth amgylcheddol—gan chwarae rhan allweddol mewn defnyddio tir yn gynaliadwy, datblygu ynni adnewyddadwy a chynllunio cyfrifol. Mae eu gwaith yn trawstori gweithredu hinsawdd, datblygu gwledig a’r economi werdd, gan gynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol ar draws disgyblaethau.
Yn bresennol hefyd:
Ffilm Cymru Wales | ConnectEd Cymru | TACP UK Ltd | SSE plc | Ystad Y Goron
Diddordeb mewn mynychu fel cyflogwr neu gyfleoedd nawdd? Cwblhewch y ffurflen hon a bydd aelod o dîm Darogan yn cysylltu’n fuan.