Medi 9, 2025 12:00 - 16:00
Depot, Cardiff
Ar ddydd Mawrth, 9 Medi 2025, bydd Darogan yn cynnal GradCon Cymru, digwyddiad gyrfaoedd i raddedigion ar raddfa fawr yn DEPOT, Caerdydd – gan ddod â dros 50 o gyflogwyr ynghyd â channoedd o fyfyrwyr a graddedigion dawnus o brifysgolion blaenllaw’r DU.
Dyma gyfle i ti gyfarfod â llu o gyflogwyr fydd yno i arddangos eu cyfleoedd i dalent newydd disgleiriaf Cymru.
Fel mynychwr, cei fanteisio ar y cyfle i rwydweithio, darganfod swyddi – gan gynnwys cynlluniau graddedigion, lleoliadau a chyfleoedd interniaeth – a manteisio ar y cyfle i glywed gan siaradwyr gwadd a chael tynnu llun proffesiynol am ddim i dy helpu wrth i ti gamu i fyd gwaith!
Bydd y digwyddiad yn un hamddenol a chroesawgar, gyda gwerthwyr bwyd stryd wrth law fel y cei fwynhau cinio blasus a chael digon o egni ar gyfer y rhwydweithio hollbwysig hwnnw!
Mae tocynnau’n hollol rhad ac am ddim, felly cofrestra heddiw i gadw dy le!