
Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy
Llywodraeth Leol / Awdurdod Lleol
Caernarfon / Gwynedd

Yn YGC rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth proffesiynol ac o ansawdd i’n cleientiaid a’n cwsmeriaid. Mae ein sefydliad profiadol yn cynnig gwasanaeth o safon ar draws llawer o wahanol sectorau o Beirianneg Sifil, Dylunio Amgylcheddol ac Adeiladu.
Mae ein tîm deinamig sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol, medrus a dwyieithog yn arbenigo mewn rheoli prosiectau ar gyfer pob cam o brosiect o’r cychwyn i’r diwedd. Mae ein sgiliau a’n harbenigedd yn cynnwys ymarfer a gweinyddu contractau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, caffael a thendro, rhaglennu a chynllunio, gweinyddu a gwerth prosiectau, rheoli costau a risg.
Rydym hefyd yn rhagori mewn sgiliau technegol i herio gwaith dylunwyr eraill, gan ein galluogi i ymgymryd â rôl cynrychiolydd Cleientiaid a thrwy hynny hwyluso rheoli prosiectau effeithlon, effeithiol a di-dor.
Yr hyn sy’n ein gosod ar wahân yw ein ffordd gydweithredol o weithio’n rhanbarthol a chyflawni’n lleol. Yn bartner dibynadwy i’n cleientiaid, rydym yn ymgynnull timau amlddisgyblaethol o beirianwyr, cynllunwyr, penseiri, penseiri tirwedd ac arbenigwyr amgylcheddol, yn ogystal ag ymgynghorwyr cost, rheolwyr prosiectau a rhaglenni sy’n ymroddedig i ddod o hyd i’r atebion mwyaf arloesol a phriodol i greu, gwella a chynnal amgylcheddau adeiledig, naturiol a chymdeithasol y rhanbarth.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys: –
- Ymgynghoriaeth Amgylcheddol
- Llifogydd ac Arfordirol (RRLEA)
- Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo
- Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth – Ffyrdd, Strwythurau a Geo-dechnegol
- Systemau Rheoli
- Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau
Gyda throsiant blynyddol yn agosáu at £8.5m a thua 120 o weithwyr proffesiynol ymroddedig, mae YGC yn sefyll allan fel ymgynghoriaeth peirianneg sifil flaenllaw yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd yn gyson i’r rhanbarth, y mae ei ganlyniadau yn dod â ffyniant cymdeithasol ac economaidd i bawb.