Tim Trafnidiaeth Cymru

Trafnidiaeth Cymru

Trafnidiaeth

Traws-Cymru


Gwaith Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl Cymru’n ymfalchïo ynddo.

 

Ynglŷn â’n rhaglen i raddedigion

Rydym yn cynnig rhaglen raddedig ddwy flynedd sydd wedi’i chynllunio i ddatblygu arweinwyr y dyfodol a fydd yn helpu i drawsnewid y ffordd mae Cymru’n teithio. Fel graddedig Trafnidiaeth Cymru, byddwch yn ymuno â thîm deinamig sy’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth aml-fodd, integredig, gyda dylanwad cadarnhaol a hir-dymor ar ffyniant y genedl. Mae’n gyfle i roi hwb i’ch gyrfa wrth weithio ar brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd.

Byddwch yn dewis maes arbenigedd megis cynllunio trafnidiaeth, cyllid, peirianneg, AD neu reoli busnes, ac yn cylchdroi rhwng timau yn eich disgyblaeth ddewisol. Wrth i chi symud ymlaen, cewch brofiad ymarferol, datblygu’ch arbenigedd a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.

Mae’r rhaglen yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch i’ch cefnogi: mentora strwythuredig, gweithdai, dysgu academaidd a chefnogaeth ariannol i sicrhau statws proffesiynol yn eich maes.

Byddwch hefyd yn elwa o becyn cystadleuol, gan gynnwys cyflog cychwynnol o £27,000, 28 diwrnod o wyliau blynyddol, a mynediad at fuddion gwych fel aelodaeth campfa a chynigion manwerthu.

Rydym yn falch i adeiladu timau amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Beth bynnag fo’ch cefndir, os ydych yn dalentog ac yn uchelgeisiol, rydym am i chi ymuno â ni ar ein taith i newid y ffordd mae cenedl yn teithio.

Beth yw’r manteision?

Grey wallet icon

Cyflog

Byddwch yn cael eich talu £27,000 y flwyddyn, cyflog fydd yn cynyddu i £28,000 yn eich ail flwyddyn.
Grey piggy bank icon

Pensiwn

Rydym yn cynnig cynllun pensiwn hael.
Grey arrows icon

Budd-daliadau hyblyg

Gallwch gael budd-daliadau gofal iechyd, cynllun beicio i’r gwaith, aelodaeth o’r gampfa a gostyngiadau manwerthu.
Grey briefcase icon

Gwyliau

Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc.
Grey accreditations icon

Achrediadau

Rydym wedi partneru â sefydliadau fel Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) i’ch helpu i ennill achrediadau proffesiynol cydnabyddedig.

 

 

Mae pob un o’n swyddi graddedig yn cynnig profiad cymysg o gylchdroadau, gweithdai datblygu, gweminarau a mwy.

Bydd gennych y cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol a dysgu a chyflawni llawer ar hyd y daith. Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth lawn gan eich mentor a’ch rheolwr.

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn derbyn nifer fawr o geisiadau ar gyfer ein cynllun graddedigion. Gallwn gau’r broses ymgeisio yn gynnar os ydym yn derbyn nifer uchel o ymgeiswyr.

Trafnidiaeth Cymru