Tech Talent Cymru


Datblyga dy yrfa ym maes technoleg gyda Tech Talent Cymru

Mae Tech Talent Cymru ar y ffordd. Cofrestra dy ddiddordeb nawr a byddwn yn cysylltu â thi cyn gynted ag y bydd y rhaglen yn barod i’w lansio.

Rho dy wybodaeth am ddeallusrwydd artiffisial neu seiberddiogelwch ar waith, ennill profiad gyda busnes yng Nghymru a helpu i lunio’r ffordd y mae’n gweithio.

Mae Tech Talent Cymru yn rhaglen leoliadau newydd i raddedigion sy’n cael ei datblygu gan Darogan mewn partneriaeth ag Equal Education Partners a Hatch Consultancy, gan gysylltu graddedigion talentog â BBaChau yng Nghymru.

Drwy un o ddau lwybr arbenigol, Deallusrwydd Artiffisial neu Seiberddiogelwch, byddi di’n gweithio’n uniongyrchol gyda busnes i ddatrys heriau go iawn, meithrin profiad ymarferol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Nid rolau cyffredinol i raddedigion yw’r rhain, lle mae dy wybodaeth dechnegol yn cael ei gadael ar y cyrion. Byddi di’n cael cymorth i ddefnyddio’r hyn rwyt ti eisoes yn ei wybod, dysgu drwy brofiad a helpu busnes yng Nghymru i gymryd camau ystyrlon ymlaen.

Dewisa dy lwybr

Ymgynghorydd Deallusrwydd Artiffisial Graddedig

Helpa fusnes yng Nghymru i ddeall ble y gallai deallusrwydd artiffisial wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Gallet ti adolygu prosesau presennol, nodi tasgau ailadroddus neu dasgau sy’n cymryd llawer o amser, ymchwilio i offer deallusrwydd artiffisial defnyddiol a chefnogi prosiectau bach sy’n gysylltiedig ag anghenion busnes go iawn. Byddi di hefyd yn helpu staff i ddeall sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn hyderus.

Gallai’r llwybr hwn fod yn addas i ti os oes gen ti brofiad o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial drwy dy radd, dy waith, prosiectau personol neu ddysgu annibynnol, a bod gen ti ddiddordeb yn y ffordd y gall technoleg wella’r ffordd y mae sefydliadau’n gweithio.

Gallet ti ennill profiad o:

  • Adolygu prosesau busnes a mapio llifoedd gwaith
  • Nodi cyfleoedd ymarferol i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial
  • Ymchwilio i offer deallusrwydd artiffisial a’u cymharu
  • Cefnogi prosiectau bach i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial
  • Llunio argymhellion clir ar gyfer rheolwyr
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, gan gynnwys preifatrwydd, rheoli ansawdd a goruchwyliaeth ddynol
  • Esbonio syniadau technegol mewn iaith syml

Ymgynghorydd Seiberddiogelwch Graddedig

Helpa fusnes yng Nghymru i ddod yn fwy diogel, yn fwy gwydn ac yn fwy parod ar gyfer bygythiadau seiber.

Gallet ti adolygu polisïau ac arferion gwaith presennol, helpu i nodi risgiau cyffredin, cefnogi parodrwydd ar gyfer Cyber Essentials a chreu canllawiau ymarferol i staff. Bydd dy waith yn helpu’r busnes i ddeall ble y gallai fod yn agored i risg a pha gamau realistig y gall eu cymryd nesaf.

Gallai’r llwybr hwn fod yn addas i ti os oes gen ti sylfaen gadarn mewn seiberddiogelwch a dy fod am ei rhoi ar waith mewn amgylchedd busnes go iawn.

Gallet ti ennill profiad o:

  • Cynnal adolygiadau sylfaenol o barodrwydd seiber
  • Nodi ac esbonio risgiau seiber cyffredin
  • Adolygu polisïau, prosesau a chanllawiau i staff
  • Cefnogi arferion mwy diogel ar gyfer cyfrifon, dyfeisiau a data
  • Creu deunyddiau ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch
  • Helpu busnesau i baratoi ar gyfer Cyber Essentials
  • Cofnodi risgiau a blaenoriaethu gwelliannau
  • Cefnogi prosesau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau a’u huwchgyfeirio

Beth fyddi di’n ei ennill?

Pa lwybr bynnag y byddi di’n ei ddewis, nod Tech Talent Cymru yw rhoi’r cyfle i ti:

  • Cwblhau lleoliad chwe mis i raddedigion gyda BBaCh yng Nghymru
  • Gweithio ar heriau busnes go iawn
  • Datblygu profiad ymarferol tebyg i waith ymgynghori
  • Meithrin dy hyder wrth gyfathrebu â chydweithwyr nad ydynt yn dechnegol
  • Dysgu sut mae busnesau llai yn gwneud penderfyniadau ac yn mabwysiadu technoleg newydd
  • Cryfhau dy CV drwy ennill profiad mewn maes sy’n tyfu yn yr economi

Yn amodol ar gadarnhad cyllid, nod y rhaglen hefyd yw cynnwys hyfforddiant, mentora a chymorth drwy gydol dy leoliad.

Bydd y rolau wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn cynnwys o leiaf 25 awr o waith yr wythnos. Gall y trefniadau gwaith fod yn swyddfa neu’n hybrid, yn dibynnu ar y busnes sy’n cynnal y lleoliad.

Pwy all wneud cais?

Rydym yn chwilio am raddedigion diweddar sydd eisoes â sylfaen dda mewn deallusrwydd artiffisial neu seiberddiogelwch ac sy’n barod i roi eu gwybodaeth ar waith mewn gweithle go iawn.

Nid oes angen i ti wybod popeth o’r diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, dylet ti fod yn chwilfrydig, yn barod i ddysgu ac yn hyderus wrth ofyn cwestiynau. Bydd angen i ti hefyd allu esbonio syniadau technegol yn glir a deall pwysigrwydd defnyddio technoleg yn gyfrifol.

Gallai cefndiroedd gradd perthnasol gynnwys cyfrifiadureg, gwyddor data, seiberddiogelwch, systemau gwybodaeth, fforenseg ddigidol, peirianneg meddalwedd, peirianneg, mathemateg, busnes, marchnata, economeg a phynciau cysylltiedig eraill.

Yr hyn sydd bwysicaf yw dy fod yn gallu dangos gwybodaeth berthnasol, diddordeb ymarferol a’r potensial i wneud cyfraniad gwirioneddol at fusnes yng Nghymru.

Barod i gymryd dy gam nesaf?

Mae cofrestru dy ddiddordeb yn rhad ac am ddim ac nid yw’n dy ymrwymo i unrhyw beth. Mae’n golygu y byddwn yn cysylltu â thi’n uniongyrchol pan fydd y rhaglen yn barod i’w lansio, gyda manylion llawn am y ddau lwybr a sut i wneud cais.

Llenwa’r ffurflen mynegi diddordeb

Tech Talent Cymru