Ship Shape – Darogan
Ship shape infomatic

Ship Shape

Fintech / Gwyddor Data

Caerdydd ac Abertawe

Ship Shape logo

Mae 70% o holl gyllid Cyfalaf Menter y DU yn mynd i Lundain a’r De Ddwyrain. Nid dyma lle mae 70% o’r syniadau gorau. Rydym am alluogi busnesau newydd i gael gafael ar gyllid a chyflymu busnesau newydd ledled y DU.

Mae dod o hyd i’r buddsoddwyr Cyfalaf Menter cywir heddiw fel mynd i mewn i dacsi sydd heb satnav. Mae’r offer cyfredol dim ond yn rhoi côd ardal ichi ar y gorau (e.e. cwmni Cyfalaf Menter sy’n buddsoddi mewn ‘Fintech’); rydym ni yn Ship Shape yn adeiladu’r satnav hwnnw.

Wedi’i sefydlu yn ystod y pandemig, mae Ship Shape mewn sefyllfa unigryw fel busnes newydd a chanddo amgylchedd gwaith ymaddasol, cyflym a chyffrous sy’n rhoi’r cyfle i gydweithio â diwylliannau ac arddulliau gwaith gwahanol mewn llif gwaith cytun, gan gydnabod anghenion a chymhelliant unigolion.

Fel busnes newydd, mae lefel yr agoriadau i bob maes busnes heb eu hail yn Ship Shape. Gallwch fod yn rhan o brosesau cyfathrebu ac adborth y tu allan i’ch rôl a’ch arbenigedd eich hunan, sy’n hyrwyddo datblygiad personol. Mae hyn yn amrywio o farchnata, gwerthu a datblygu cynnyrch, i gydlynu data, gwyddoniaeth data a gweithrediadau. Mae hyn yn cael ei yrru gan y cyfathrebu ymddiriedus ac agored yn Ship Shape, lle mae pawb yn cyrchu at yr un nod.

Ar hyn o bryd mae Ship Shape yn ymwneud â nifer o brifysgolion ac yn ddiweddar rydym wedi cychwyn rhaglen integredig i raddedigion sy’n caniatáu i ddarpar-raddedigion fynd i’r afael â heriau bywyd go iawn fydd  yn eu paratoi ar gyfer diwydiannau proffesiynol. Yn Ship Shape, rydym yn falch i gydnabod y dalent a’r oedran amrywiol sydd wedi ffurfio clymau a chysylltiadau unigryw, a byddem yn falch iawn i siarad â’r rhai hynny sy’n awyddus i neidio ar fwrdd ein llong.