Novomorphic logo and image of compound semiconductor

Novomorphic

Peirianneg

Caerdydd


Trosolwg o’r Cwmni

Mae Novomorphic yn gwmni â chefnogaeth menter — gan gynnwys Cadence Design Systems, Llywodraeth Cymru, a CSA Catapult — sy’n ymroddgar tuag at adeiladu gallu dylunio lled-ddargludyddion allweddol yn y DU. Eu nod yw darparu systemau dylunio IC a thrydanol blaengar i BBaChau, cwmniau sydd wrthi’n tyfu, a chwmniau mawr wrth ddatblygu sylfaen doniau mewn lled-ddargludyddion digidol, signal cymysg, a chyfansawdd ar gyfer y DU.

Beth Sydd yn Gwneud Novomorphic yn Wahanol

Mae Novomorphic yn adeiladu cwmni o’r newydd, gyda diwydiant sy’n ganoledig ar berchnogaeth, chyflymder, a rhagoriaeth dechnegol. Mae gan bob aelod o’r tîm ran mewn siapio’r busnes a’i lwyddiant.

Cyfleoedd i Raddedigion

Mae Novomorphic yn cynnig profiad unigryw i raddedigion y tu hwnt i rolau lefel mynediad arferol. Mae graddedigion yn cael eu cyflwyno’n gynnar i amgylcheddau dylunio dilys ac offer o safon diwydiant megis Cadence. Maent yn cyfrannu tuag at ddatrysiadau ar draws AI, electroneg pŵer, telathrebu, amddiffyniad, awyrofod, a mwy.

Os oes gennych brofiad neu ddiddordeb mewn AI a Chyfrifiannu, Modurol ac Awrofod, Telathrebu ac Amledd Radio, neu Pwer ac Egni, hoffem glywed gennych chi. P’un a ydych chi’n dod o gefndir BSc, BEng, MSc, MEng neu PhD, rydym yma i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau dan arweiniad mentoriaid o’r radd flaenaf yn ein rhaglen hyfforddi ddwys sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Pam Ymuno â Novomorphic

  • Cysylltiad uniongyrchol i arweinyddiaeth a gweithrediadau strategol busnes technoleg ddofn sy’n datblygu’n gyflym.
  • Cyfle i ymgysylltu â chwsmeriaid, partneriaid, ac arweinyddion technoleg o’r dechrau un.
  • Mentoriaeth gan yr uwch dîm technegol a masnachol.
  • Profiad ar draws sawl swyddogaeth busnes: gweithrediadau, peirianneg, marchnata, ac ymgysylltiad cwsmer.
  • Llwybr datblygu clir tuag at arweinyddiaeth mewn gwerthiant technegol, rheolaeth gweithrediadau, neu gyfathrebu.