
M-SParc
Gwyddoniaeth ac Arloesi
Ynys Môn

M-SParc; Parc Gwyddoniaeth Dynodedig Cyntaf Cymru!
Mae gan bob un ohonom ni syniadau gwych. Ond faint sy’n cael eu gwireddu?
Mae troi syniadau cychwynnol yn fentrau llwyddiannus yn gofyn am rywbeth, a rhywle, ychwanegol. Rhywbeth i danio uchelgais, rhywbeth i roi ynni ynddo, rhywle i danio sparc ar gyfer dyfodol gwell. Er mwyn i fusnesau arloesol, blaengar sydd ar flaen y gad ym myd gwyddoniaeth lwyddo, mae angen gwybodaeth, sgiliau, cefnogaeth, anogaeth a buddsoddiad arnynt.
Dyma lle y gall M-SParc helpu; drwy ddarparu amgylchedd gwaith llawn egni, cefnogaeth fusnes arbennig a chyfleusterau o’r radd flaenaf. Ar y cyd â Phrifysgol Bangor, rydyn ni’n barod i ddechrau cyfnod newydd cadarnhaol yn y sector busnes a gwybodaeth. Mae M-SParc yn llawer mwy na chyfle busnes gwych, mae’n cynnig rhywbeth ychwanegol ac yn rhoi cartref i gwmnïau a fydd yn gallu darparu swyddi lefel uchel wrth iddyn nhw dyfu.
Rydym ni a’n tenantiaid wastad yn chwilio am dalent newydd. Boed hyn yn yrfa newydd, neu yn interniaeth i myfyrwyr. Beth am edych beth sydd ar gael!