Darwin Gray – Darogan
Two people having a conversation

Darwin Gray

Cwmni cyfreithiol

Caerdydd

Darwin Gray logo

Mae Darwin Gray yn gwmni cyfreithiol masnachol sy’n gweithio gyda chleientiaid o’r sector gyhoeddus, y sector breifat a’r drydydd sector. Rydym yn falch o alw Caerdydd yn gartref a rydym yn ymrwymo i gefnogi sefydliadau a chymunedau’r ddinas a thu hwnt.

Rydym yn cefnogi unigolion a busnesau i wireddu eu hamcanion yn y ffordd fwyaf effeithlon. Drwy ganolbwyntio ar anghenion ein cleientiaid, rydym yn anelu at eu hamddiffyn hwy a’u sefydliadau drwy ragweld problemau, a chefnogi twf a datblygiad busnes.

Mae ein gwasanaethau yn cyffwrdd pob agwedd ar gyfraith fasnachol, sy’n galluogi ein timau i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau mynediad hygyrch o’r safon orau i’n cleientiaid ar bob adeg, a phryd bynnag y mae’r galw. Mae ein hymagwedd bersonol yn golygu mai dim ond galwad ffôn i ffwrdd ydyn ni bob amser.

Ein tîm

Mae canran sylweddol o’n gweithwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac rydym yn meithrin ac yn croesawu talent ifanc.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gweld cryfder mewn amrywiaeth ac yn ffynnu drwy ystod o brofiadau. Rydym yn falch o ddiwylliant gwasanaethgar a chyfeillgar ein swyddfa, a rydym yn cefnogi gweithgareddau ein tîm cymaint â phosibl, boed hynny’n fywyd teuluol, yn weithgareddau tu hwnt i’r byd gwaith neu’n angerdd tuag at faes o’r gyfraith.