Baner o Sir Fôn

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Lleol / Y Sector Gyhoeddus

Ynys Môn


Ymunwch â ni yng Nghyngor Sir Ynys Môn!

Yng Nghyngor Sir Ynys Môn, rydym yn falch o wasanaethu un o’r ardaloedd mwyaf unigryw a hardd yng Nghymru. Fel awdurdod lleol yr ynys, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau – o addysg, tai a gofal cymdeithasol i ddatblygiad economaidd, diogelu’r amgylchedd a mwy.

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig sy’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi trigolion, diogelu ein treftadaeth naturiol a diwylliannol a llunio dyfodol gwell i Ynys Môn. Boed mewn rolau rheng flaen neu y tu ôl i’r llenni, mae pob un ohonom yn gwneud gwahaniaeth.

Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Mae ein gwaith yn cael ei siapio gan ein Cynllun y Cyngor, gan roi ffocws ar ein gweledigaeth:

“Creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus lle gall bobl ffynnu.”

To realise this vision, we will continue to modernise and transform our services and our way of working. Demonstrating and living our values is integral in achieving this:

Parch Rydym yn barchus ac yn ystyriol tuag at eraill er gwaethaf ein gwahaniaethau.
Cydweithio Rydym yn gweithio fel tîm, gyda’n cymunedau a’n partneriaid, i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer pobl Ynys Môn.
Gonestrwydd Rydym yn ymrwymedig i safonau uchel o ran ymddygiad ac uniondeb.
Hyrwyddo Rydym yn creu ymdeimlad o falchder mewn gweithio i’r cyngor ac yn cyflwyno delwedd gadarnhaol o’r ynys.

 

Pam gweithio i ni?

Mae gyrfa gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn cynnig mwy na dim ond swydd – mae’n gyfle i dyfu, datblygu a bod yn rhan o rywbeth ystyrlon. Rydym yn cynnig:

  • Ystod eang o rolau ar draws sectorau amrywiol
  • Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid
  • Cynllun cyflogau a phensiwn cystadleuol
  • Cymorth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
  • Ymrwymiad cryf i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Amgylchedd waith dwyieithog, croesawgar a chefnogol

Byddwch hefyd yn gweithio yn un o’r lleoliadau mwyaf golygfaol yng Nghymru, wedi’i amgylchynu gan natur, diwylliant ac ysbryd cymunedol.

Dechreuwch eich taith

P’un a ydych chi newydd ddechrau eich siwrne gyrfaol, yn edrych i ddychwelyd i’r gwaith, neu’n barod am her newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dewch o hyd i’n  cyfleoedd cyfredol a dod yn rhan o sefydliad sydd ag Ynys Môn wrth ein calon.

👉 Swyddi, gyrfaoedd a hyfforddiant

 

Cyngor Sir Ynys Môn