
Cyngor Gwynedd
Cyngor Lleol / Y Sector Gyhoeddus
Caernarfon

Addysg. Iechyd. Gofal cymdeithasol. Datblygiad economaidd. Tai. Yr amgylchedd. Diwylliant. Dyma flas i chi o’r ystod o gyfrifoldebau sydd gan lywodraethau lleol. Mae’n gofyn am weithlu dyfeisgar, medrus a phrofiadol; ac yn hyn, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i groesawu a datblygu cenhedlaeth newydd o arbenigwyr maes, i arwain ac i arloesi, ac i wella bywydau pobl Gwynedd.
.png)
Cynllun Yfory yw cynllun graddedigion Cyngor Gwynedd. Mae’n gyfle unigryw i ymuno gyda’r 6,000 o staff yn y Cyngor sy’n gyfrifol am redeg oddeutu 100 o wasanaethau i’r 120,000 o bobl sy’n byw yng Ngwynedd. Ar y Cynllun, mi fyddwch yn datblygu arbenigedd maes penodol ac yn ennill profiad ymarferol o’r gwaith, sefydliadau a’r systemau sydd y tu cefn i wasanaethau’r Cyngor. Ers dechrau’r Cynllun yn 2017, mae’r Cyngor wedi recriwtio nifer o wahanol fathau o hyfforddeion, gan gynnwys:
Hyfforddai Proffesiynol Arwain a Rheoli.
Hyfforddai Proffesiynol Arwain a Rheoli – Iechyd a Gofal.
Hyfforddai Proffesiynol Rheolaeth Cefn Gwlad.
Hyfforddai Proffesiynol Caffael.
Hyfforddai Syrfëwr Eiddo.
Hyfforddai Llesiant.
Hyfforddai Cyfreithiol Proffesiynol.
Hyfforddai Proffesiynol Cyfieithu.
Mae’r Cynllun yn pontio dwy flynedd. Yn y cyfnod hwn, mi fydd yr hyfforddeion yn gweithio ar brosiectau rheolaethol lefel uchel o fewn y Cyngor, wrth hefyd astudio’n rhan-amser am raddau Meistr pwrpasol – wedi’u hariannu’n llawn gan y Cynllun. Mae Cynllun Yfory felly’n gyfle gwych i feddu’r sgiliau, gwybodaeth a’r profiadau craidd i ddatblygu gyrfa lwyddiannus yng Nghyngor Gwynedd a’r sector gyhoeddus ehangach.
Rhaid i bob ymgeisydd gyrraedd y meini prawf isod:
Wedi ennill (neu’n debygol o ennill) gradd 2:2 neu uwch.
Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Wedi ennill TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Ymroddiad i lywodraeth leol.