Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Darogan
There is a sea with boars and it's a view of a town in conway

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Y Sector Cyhoeddus, Awdurdod Lleol

Bae Colwyn ac ar draws Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy logo

Rydym ni’n awdurdod lleol arloesol mewn ardal hardd yng Ngogledd Cymru. Ein gweledigaeth yw rheoli newid mewn ffordd flaengar a defnyddio hynny i greu cyfleoedd, gan ddiogelu’r hyn sydd gennym ni a chreu cymuned gynaliadwy lle mae pawb yn gallu ffynnu. Yng Nghonwy, mae pob swydd yn gwneud gwahaniaeth a byddwch yn dod o hyd i gyfleoedd i gyfrannu at brosiectau ystyrlon, datblygu eich sgiliau a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein preswylwyr.

Pam ymuno â ni?

  1. Cyfleoedd Amrywiol: P’un ai ydych chi’n ymddiddori mewn cynllunio, cadwraeth amgylcheddol, gwasanaethau cymdeithasol neu arloesi digidol, gallwch fynd ati o ddifrif i weithio ac ehangu eich profiadau a gosod sylfaen gref i’ch gyrfa.
  1. Lleoliad Hyfryd: Dychmygwch weithio mewn ardal lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr a lle fedrwch chi ddod ar draws cestyll hanesyddol ac anturiaethau awyr agored ar garreg eich drws. Mae Conwy’n cynnig ansawdd bywyd uchel, gyda threfi bach del, cymunedau bywiog a harddwch naturiol arbennig. Mae gennym ni hefyd sinema aml-sgrin nid nepell o Goed Pella, a thafarndai a llefydd bwyta neis.
  1. Datblygu Gyrfa: Rydym ni’n buddsoddi ynoch chi ac mae gennym ni enw da am ddyrchafu staff. Rydym ni hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd eisiau dysgu neu wella eu Cymraeg. Bydd gennych chi fynediad at Academi Ddysgu, mentora a chyfleoedd datblygu proffesiynol. Rydym ni’n annog dysgu parhaus ac yn darparu amgylchedd cefnogol i bobl ddringo’r ysgol yrfa.
  1. Cydbwysedd Bywyd a Gwaith: Rydym ni’n credu mewn cydbwysedd bywyd a gwaith. Gallwch fwynhau trefniadau gweithio hybrid, pecyn buddiannau gweithwyr sy’n cynnwys gostyngiadau mewn siopau, cynlluniau beicio a lwfans gwyliau hael. Mae bod yn rhan o Dîm Conwy hefyd yn golygu y cewch chi amgylchedd gweithio cyfeillgar a chefnogol.

Ymunwch â Thîm Conwy

Ydych chi’n barod i fod yn rhan o dîm deinamig sy’n siarad gyda a gwrando arnoch chi, a rhoi gwerth ar greadigrwydd, cydweithio a chymuned? Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol a dechreuwch ar yrfa werth chweil gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Methu dod o hyd i swydd addas i chi ar hyn o bryd? Cofiwch fod modd cofrestru i gael hysbysiadau swyddi.

Darllenwch ein Llyfryn Recriwtio i ddysgu mwy.

I gael mwy o wybodaeth am ein cynnig dysgu a dytblygu Academi Dysgu Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy