Edrych yn ôl ar 2025
6 Ionawr 2026
Mared Jones
Wel, sôn am flwyddyn! Mae llwyth o bethau wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, ond dyma lond llaw o’n ffefrynnau:
🌱 Mae’r tîm yn tyfu:
Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd yn bleser croesawu dau aelod parhaol newydd i’r tîm, gyda Mared Jones yn ymuno fel Rheolwr Marchnata yng Nghaerdydd, a Daniel Maclean yn ymuno fel Uwch Ymgynghorydd Talent yn Sir Ddinbych. Mae’r ddau ohonynt wedi dod ag arbennigedd, egni, ac ymrwymiad cadarnhaol i nod Darogan, gan gryfhau’r tîm o’r dechrau un.
Roeddem hefyd yn hynod o hapus i groesawu Owen yn ôl ar gyfer ei ail interniaeth haf gyda ni, a hefyd ein intern newydd sbon Elen – fedrwn ni ddim dychmygu neb gwell i’n cefnogi ni gyda’n prosiectau’r haf hwnnw!
🏔️ Sefydlu’n hunain yn y Gogledd:
Gyda staff bellach yn y Gogledd ac ein tenantiaeth rithiol ym M-SParc ar Ynys Môn, roedd 2025 yn flwyddyn bwysig i ni ledaenu ein gwasanaethau ledled Cymru.
💅 Brand a gwefan newydd:
Gwelwyd adnewyddiad mawr i frand Darogan y llynedd hefyd, ochr yn ochr â lansiad ein gwefan newydd. Roedd yr ymateb yn hynod gadarnhaol – o’r geiriau caredig am y wedd newydd i boblogrwydd llethol ein bagiau tote Mari Lwyd mewn ffeiriau gyrfaoedd! Mae’r wefan newydd yn cynnig profiad defnyddiwr llawer mwy llyfn, gan gynnwys dangosfyrddau personol sy’n ei gwneud hi’n haws nag erioed i ymgysylltu â’r platfform. Diolch yn fawr i Pobl Tech am eich cefnogaeth!
🎓 Cyflwyno GradCon Cymru:
Drwy gydol 2025, gwnaethom gyflwyno rhaglen eang o ddigwyddiadau i gefnogi myfyrwyr a graddedigion i ddod o hyd i gyfleoedd yng Nghymru, gan gynnwys ein digwyddiad cyntaf i ganolbwyntio ar sector benodol, sef gyrfaoedd gwyrdd.
Wedi dweud hynny, uchafbwynt y flwyddyn oedd GradCon Cymru, heb os. Cynhaliwyd y digwyddiad yn DEPOT, Caerdydd, gan groesawu 500 o fyfyrwyr a graddedigion, 50 o gyflogwyr, a 7 siaradwr gwadd – gan gadarnhau ei le fel un o brif uchafbwyntiau calendr Darogan erbyn hyn!
(Fedrwn ni gadarnhau bydd GradCon Cymru yn dychwelyd ar raddfa fwy fyth yn 2026!)
💼 Rhestr gynyddol o gyflogwyr ar y platfform:
Dros y flwyddyn, fe wnaethom gynyddu nifer y cyflogwyr sy’n hysbysebu drwy blatfform Darogan fwy na phedair gwaith. Roeddem yn arbennig o falch o groesawu partneriaid megis Admiral, Cyfoeth Naturiol Cymru, Companies House a Thrafnidiaeth Cymru, ymhlith llawer o gyflogwyr gwych eraill. Diolch am ymuno!
2025 oedd ein blwyddyn gryfaf hyd yma – ond mae 2026 yn barod yn argoeli i fod yn un gwell fyth. Mwy ar hynny i ddod…!