Kryshka header image

Dewch i gwrdd ein Rheolwr Talent a Phartneriaethau newydd, Kryshka!

11 Mai 2026

Mared Jones


Dyweda ychydig wrthym amdan dy hun a dy brofiad.

Fi yw Kryshka, ac rwy’n hynod gyffrous i fod wedi ymuno â Darogan fel Rheolwr Talent a Phartneriaethau. Peidiwch â gadael i’r enw eich twyllo chi – cefais fy ngeni a’m magu yn Abertawe ac, ar wahân i gyfnod o chwe blynedd ym Mhrifysgol Plymouth, rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes. Cyn ymuno â Darogan, treuliais ddegawd yn gweithio yn y sector Recriwtio Addysg, gan gydweithio â rhai addysgwyr anhygoel ac ysgolion gwych ledled De Orllewin Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r holl sgiliau rwyf wedi’u meithrin dros ddeng mlynedd ym myd gwyllt recriwtio asiantaeth dros dro yn fy rôl newydd.

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ymuno â Darogan?

Rwy mewn sefyllfa eithaf unigryw gan fy mod i, ar wahanol gyfnodau yn fy mywyd, wedi bod yn union y math o ymgeisydd a chwsmer mae Darogan yn ei gefnogi! Fel graddedig Cymreig a aeth i brifysgol yn Lloegr yn y degawd diwethaf, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol pa mor brin oedd yr ymdrechion i annog graddedigion i ddychwelyd adref unwaith roedden nhw’n dechrau ar eu gyrfaoedd. Yn fy mywyd proffesiynol, rwyf wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau gyrfaoedd diflas iawn, ac roedd yn wych gweld Darogan yn dod i’r amlwg gyda dull ffres a chyffrous o recriwtio gyrfaoedd cynnar. Yn rhy aml, mae buddiannau Cymru yn cael eu cyfuno o fewn strategaethau Seisnig ehangach, felly mae bod yn rhan o gwmni Cymreig sy’n canolbwyntio ar gefnogi recriwtio yng Nghymru yn fraint enfawr. Mae cael chwarae rhan mewn rhywbeth mor bwysig i ffyniant Cymru a chadw talent yma yng Nghymru ar gyfnod mor gynnar o’r daith yn gyffrous iawn. Alla i ddim aros i ddechrau!

Beth yw dy hobïau a dy ddiddordebau?

Rwy’n fam i dri o blant ifanc, felly mae fy hobïau a’m diddordebau bellach yn troi’n bennaf o amgylch tawelwch a choffi sydd dal yn gynnes…

Ond o ddifrif, rwyf wedi datblygu obsesiwn llwyr gyda garddio yn ddiweddar ac wedi dod i delerau â’r ffaith fy mod i’n sicr wedi cyrraedd canol oed! Dwi wrth fy modd yn mynd i ganolfannau garddio a thynnu lluniau o’m blodau. Rwyf hefyd yn mwynhau nofio, adeiladu Lego a darllen – er bod y plant uchod yn golygu bod cyfleoedd i wneud unrhyw un o’r pethau hynny yn eithaf prin!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf yn dy rôl newydd gyda Darogan?

Y rhan orau o recriwtio yw cwrdd ag ymgeiswyr a chleientiaid, ac alla i ddim aros i ddechrau rhwydweithio gyda’r ddau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar y gwaith gwych mae’r tîm eisoes wedi bod yn ei wneud o ran cefnogaeth recriwtio, ac at gryfhau ein cynnig drwy ddefnyddio fy mhrofiad mewn recriwtio dros dro i ddatblygu ein datrysiadau staffio interniaethau a chontractau ymhellach.