
Dewch i gwrdd â’n Rheolwr Talent newydd, Jack
15 Tachwedd 2024
Owain James
Mae’n fis cyffrous i ni yn Darogan Talent wrth i ni groesawu dau aelod newydd i’r tîm. Mae tyfu o un i dri yn garreg filltir fawr yn ein taith ac ni allwn aros i’ch cyflwyno i’n recriwtiaid diweddaraf. Bydd ein trydydd recriwt a’r olaf (am y tro o leiaf!) yn ymuno â ni ar ddiwedd y mis ond yn y cyfamser, roeddem am eich cyflwyno i Jack a ymunodd â ni ar ddechrau mis Ionawr fel Rheolwr Talent. Fe wnaethon ni ddal i fyny ag ef i weld sut mae’n teimlo am ei rôl newydd gyda ni:
1) Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun a’ch profiad.
Jack ydw i, ymgynghorydd recriwtio o Dde Cymru. Ers graddio o Brifysgol Abertawe yn 2015, mae gennyf dros 7 mlynedd o brofiad yn y sector recriwtio yng Nghymru, yn bennaf o fewn STEM, ond yn fwyaf diweddar, rwyf wedi gweithio yn y gofod recriwtio graddedigion/gyrfaoedd cynnar lle rwyf wedi ennill gwybodaeth helaeth yn y maes hwn o reoli talent.
2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ymuno â Darogan?
Rwyf wedi dilyn taith Darogan ers y dechrau ac rwyf bob amser wedi cael fy nenu at ei phwrpas: i godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd yng Nghymru ac i gysylltu cyflogwyr â’r dalent graddedigion gorau yng Nghymru a thu hwnt.
Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe yn 2015 gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth, roeddwn yn ansicr ynghylch yr hyn yr oeddwn am ei wneud a ffeindiais mai ychydig o wybodaeth oedd ar gael i raddedigion am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yng Nghymru. Yn y pen draw, llwyddais i gael swydd fel fel ymgynghorydd recriwtio, yn arbenigo mewn recriwtio ar gyfer sectorau STEM yng Nghymru gan gynnwys gweithgynhyrchu, peirianneg, a gwyddor bywyd, a chefais fy synnu gan nifer y busnesau anhygoel sydd gennym yng Nghymru yn y sectorau hyn yn unig.
O ganlyniad, rwyf wedi bod yn angerddol am y pwnc hwn ers hynny ac mae Darogan yn cynnig ateb gwych i’r ‘brain drain’. Roedd gweithio i sefydliad pwrpasol fel Darogan yn apelio’n fawr ataf ac rwy’n gyffrous i weld sut y gallaf gael effaith gadarnhaol.
3) Beth yw eich hobïau a’ch diddordebau?
Rydw i’n Gymro ‘ystradebol’ gan fy mod yn gefnogwr rygbi enfawr gan ddilyn y tîm cenedlaethol a’r rhanbarthau. Rwy’n mwynhau bod yn actif gan gynnwys rhedeg, beicio, a mynd i’r gampfa, yn ogystal ag anturo yn ein cefn gwlad anhygoel gyda fy mhartner a’n Border Collie. Rwyf hefyd yn hoff iawn o fwyd ac yn mwynhau coginio a phobi gartref. Roeddwn i hyd yn oed yn rhedeg fy musnes bwyd fy hun, Deli Bach, delicatessen yn arbenigo mewn bwyd a chynnyrch Cymreig, a ddeilliodd o’r hobi yma a ddatblygwyd yn ystod cyfyngiadau COVID, cyn dychwelyd i’r sector recriwtio!
4) Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf gyda’ch rôl newydd gyda Darogan?
Rwy’n edrych ymlaen at gysylltu â myfyrwyr o Gymru, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd y tu allan i’r wlad. Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod Darogan yn sefydlu perthynas â chymdeithasau Cymraeg mewn prifysgolion y tu allan i Gymru, ac yn credu ei fod yn cynnig ateb cyffrous ac arloesol ar gyfer dod o hyd i raddedigion talentog. Bydd gallu cysylltu â’r dalent hon, clywed eu profiadau, a’u haddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yng Nghymru yn rhoi boddhad mawr i mi.