
Dewch i gwrdd â Gwenno
12 Rhagfyr 2024
Owain James
- Dywedwch ychydig amdanoch chi a’ch profiad.
Gwenno ydw i, yn wreiddiol o Abergwyngregyn yng Ngogledd Cymru ond yn byw yng Nghaerdydd ers 2008. Symudais i ffwrdd i fynychu’r brifysgol ac astudio cerddoriaeth, gan ganolbwyntio’n bennaf ar berfformio fel feiolinydd, cyn dychwelyd i Fangor am gyfnod byr i gwblhau gradd Meistr mewn Cerddoriaeth Draddodiadol Geltaidd. Cyn ymuno â Darogan bûm yn gweithio fel Prif Swyddog gŵyl Tafwyl – rôl a oedd yn hynod amrywiol, ac a roddodd gyfoeth o brofiad i mi mewn digwyddiadau, marchnata a chodi arian.
- Beth wnaeth eich ysbrydoli i ymuno â Darogan?
Mae pwrpas a dyhead Darogan i gynnig cyfleoedd o safon i raddedigion yng Nghymru yn rhywbeth dwi’n ei gefnogi’n gryf ac roedd y cyfle i ymuno â’u symudiad i wrthsefyll y ‘brain drain’ yn un nad oeddwn am ei adael i’w basio.
Mae Cymru yn lle mor arbennig i fyw a gweithio, ac mae’n haeddu cael ei harddangos i raddedigion am ei photensial fel cartref i’w gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae Darogan hefyd yn sefyll allan gan eu bod yn cynnig cymaint o gyfleoedd rhwydweithio i gyflogwyr, graddedigion a myfyrwyr – mae gwir deimlad eu bod yn adeiladu cymuned drwy eu gwaith a’u rhwydweithiau.
Ar lefel bersonol, mae hefyd yn gyffrous iawn ymuno â chwmni sy’n dal i dyfu a bod yn rhan o’r broses o sefydlu diwylliant gweithle cadarnhaol a gobeithio bod yn rhan o rywbeth ystyrlon a fydd yn tyfu am flynyddoedd lawer i ddod.
- Beth yw eich hobïau a’ch diddordebau?
Tan yn ddiweddar roeddwn i mewn i godi pŵer (powerlifting) yn fawr ond mae dyletswyddau mam (mae gen i ferch fach hyfryd ddwy oed) yn golygu nad yw sesiynau campfa tair awr bellach ar y cardiau. Rwy’n dal i hoffi bod yn actif, fodd bynnag, felly ’dwi rwan wedi dechrau rhedeg, sy’n golygu lot llai o eistedd o gwmpas a llawer llai o ‘snack breaks’ na chodi pŵer, felly dwi’n dal i benderfynu sut dwi’n teimlo am y peth…
Podlediadau trosedd gwir ydy fy ‘guilty pleasure’. Mi fyddai bob amser yn ceisio gwrando ar neu chwarae cymaint o gerddoriaeth â phosibl, a dwi’n arbennig o hoff o gael chwarae gyda’m pedwarawd llinynnol ar gyfer priodasau oherwydd eu bod bob amser yn achlysuron mor hapus a llawen!
- Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf gyda’ch rôl newydd gyda Darogan?
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ein cyfres o ddigwyddiadau ledled Lloegr lle byddwn yn hyrwyddo cyfleoedd i raddedigion, yn cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr ac yn cyflwyno pobl i’r hyn sydd gan ranbarth ARFOR i’w gynnig. Mi fydd hi’n wych cael treulio amser wyneb i wyneb gyda rhai o’n haelodau a dod i ddysgu am beth arall yr hoffe nhw ei weld gan Darogan yn y dyfodol.
Dwi hefyd yn edrych ymlaen at ddod o hyd i a datblygu cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â sefydliadau sydd â phwrpas tebyg, ac i sefydlu lle Darogan fel y dewis amlwg i raddedigion sy’n ceisio ymgartrefu yng Nghymru.