Cyrsiau Dysgu a Datblygu Am Ddim yng Nghymru ar gyfer Talent Cynnar – Darogan

Cyrsiau Dysgu a Datblygu Am Ddim yng Nghymru ar gyfer Talent Cynnar

12 Chwefror 2025

Jack Taylor


Yng Nghymru, rydym yn ffodus bod cymaint o gyrsiau am ddim ar gael i bobl sy’n awyddus i ddysgu tra eu bod yn ennill cyflog!

P’un a ydych yn gyflogwr sydd am wella eich dysgu a’ch datblygiad i’ch staff, neu’n raddedig sy’n chwilio am gyrsiau i’ch cefnogi yn eich rôl newydd/sydd ar ddod, yna mae’n werth edrych ar y canlynol sydd i gyd AM DDIM i gyflogwyr a staff yng Nghymru:

Cyfrifon Dysgu Personol

Mae Cyfrifon Dysgu Personol ar gael i weithwyr yng Nghymru sy’n ennill llai na £30,596 y flwyddyn. Drwy sefydlu cyfrif, gallwch gael mynediad at astudiaethau rhan-amser ar gyrsiau penodol ochr yn ochr â’ch cyflogaeth bresennol, a ddarperir gan golegau yng Nghymru.

OpenLearn: Y Brifysgol Agored

Mae platfform OpenLearn y Brifysgol Agored yn cynnig miloedd o gyrsiau am ddim i bobl sy’n dymuno uwchsgilio. Mae’r platfform yn cynnwys cyrsiau i ddatblygu ‘sgiliau gwaith’ y gellir eu cwblhau ar-lein ac yn eich amser eich hun, gan ei wneud yn opsiwn hyblyg iawn i gyflogwyr a gweithwyr.  

Prentisiaethau Gradd

Mae Prentisiaethau Gradd yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer cyflogwyr a myfyrwyr! Fel myfyriwr, gallwch ennill cyflog wrth i chi ddysgu gyda dim ffioedd astudio ac nid oes costau ar gyfer y cwrs i gyflogwyr. Gall cyflogwyr hefyd gael mynediad at y cyllid hwn nid yn unig i uwchsgilio staff presennol ond hefyd i recriwtio staff newydd.

Rydym yn ffodus bod cymaint o opsiynau yng Nghymru o ran dysgu a datblygu, ond mae’n creu her i gyflogwyr a dysgwyr o ran dod o hyd i gwrs sy’n ddelfrydol iddynt.

Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i ddarparwyr cyllid neu hyfforddiant o ran uwchsgilio eich talent presennol neu talent y dyfodol, yna peidiwch ag oedi i gysylltu efo ni ar [email protected]