
Cynnig arbennig ar gyfer cyflogwyr Gogledd Cymru
22 Gorffennaf 2025
Mared Jones
I ddathlu’r ffaith bod Darogan wedi ymuno â rhwydwaith M-SParc ar Ynys Môn, rydym yn cynnig y cyfle i gyflogwyr Gogledd Cymru hysbysebu un swydd ar ein hysbysfwrdd i raddedigion — yn gwbl rad ac am ddim!
Rydym yn gwybod bod Gogledd Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio, ac ein nod fel cwmni yw sicrhau fod pob un myfyriwr a pherson graddedig yn gwybod hyn, hefyd. Dyna pam rydym yn cynnig y cyfle hwn i gyflogwyr Gogledd Cymru am ddim: i wneud yn siŵr fod pawb yn clywed am y cyfleoedd gwych sydd ar gael yma.
I fanteisio ar y cynnig arbennig hwn, cwbl sydd angen i chi ei wneud yw trefnu galwad ar-lein gydag un o’n harbenigwyr talent cynnar.
Pam hysbysebu gyda Darogan?
- Targedu uniongyrchol: Mae platfform Darogan yn cael ei ddefnyddio gan filoedd o fyfyrwyr a graddedigion sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa yng Nghymru.
- Ehangu’r gronfa talent: Dydyn ni ddim yn canolbwyntio’n unig ar raddedigion yng Nghymru; rydym yn pwysleisio ar gyrraedd y 53% o fyfyrwyr o Ogledd Cymru sy’n dewis astudio tu hwnt i Gymru.
- Hapus i siarad: Mae Darogan yn fwy na hysbysfwrdd di-wyneb; rydym o hyd yn barod am sgwrs i drafod eich sialensau a chynnig datrysiad!
Barod i gychwyn arni? Cliciwch yma i drefnu sgwrs gyda un o’n harbenigwyr.