
Cymharu’r hyn y mae pobl o Gymru yn ei astudio yng Nghymru â’r rhai y tu allan i Gymru: Rhan 1
12 Mehefin 2024
Owain James
Yn ddiweddar rwyf wedi darganfod y gallwch hidlo myfyrwyr yn ôl eu lleoliad astudio a’u pwnc astudio (gyda rhai cyfyngiadau*) trwy wefan UCAS. Felly meddyliais y byddwn yn tynnu’r data at ei gilydd a chymharu’r hyn y mae pobl o Gymru yn ei astudio yng Nghymru yn erbyn yr hyn y maent yn ei astudio y tu allan i Gymru, a gweld beth sy’n dod i’r amlwg.
Rwy’n rhannu’r canlyniadau mewn dwy ran: yr wythnos nesaf byddaf yn rhannu’r data ar gyfer y meysydd pwnc y mae HESA yn eu dosbarthu fel pynciau ‘Anwyddonol’ – ond yr wythnos hon rwy’n rhannu’r data ar gyfer pynciau sy’n dod o dan ‘Gwyddoniaeth’, fel y gallwch weld yn y graffig isod 👇
)%20(2).png)
Cyn i mi drafod y data – pam ydy e’n ddefnyddiol gwybod beth mae pobl yn ei astudio yn ôl eu lleoliad astudio? Wel, os oes gan Gymru brinder sgiliau mewn rhai meysydd, rydym ni wir eisiau gwybod a oes cronfeydd talent eraill mewn lleoliadau eraill y gallwn ni eu manteisio arnynt i lenwi’r bylchau sgiliau hynny. Gall y data hyn helpu cyflogwyr a sefydliadau yng Nghymru i wybod lle mae sgiliau penodol yn cael eu datblygu, ac efallai newid strategaethau recriwtio yn unol â hynny.
Dyma rai sylwadau ar y data isod:
- Er bod nifer o bobl yn dal i astudio pynciau mewn perthynas â bioleg ddynol y tu allan i Gymru (h.y. Meddygaeth a Deintyddiaeth; Pynciau Cysylltiedig â Meddygaeth; Gwyddorau Biolegol a Chwaraeon; Seicoleg), mae pobl o Gymru yn tueddu i aros yng Nghymru i gymryd y pynciau hyn. Efallai bod hyn yn dangos bwriad i weithio o fewn GIG Cymru ar ôl graddio?
- I’r gwrthwyneb, os ydych yn chwilio am rywun o Gymru sydd â gradd mewn Gwyddor Filfeddygol neu Amaethyddiaeth/Bwyd, efallai dylech edrych y tu allan i Gymru
- Mae llawer o bynciau STEM yn dod o dan gategorïau sydd yn gryfach y tu allan i Gymru (Gwyddorau Ffisegol; Gwyddorau Mathemategol; Peirianneg a Thechnoleg), ac eithrio graddau Cyfrifiadura. Bydd y galw am y sgiliau hyn yn parhau i dyfu – dylem fod yn edrych y tu allan i Gymru i gwrdd â’r bylchau sgiliau hyn mae’n ymddangos.
- Mae graddau Pensaernïaeth, Adeiladu a Chynllunio yn fwy poblogaidd y tu allan i Gymru – yn anecdotaidd rwyf wedi clywed bod diffyg rhai graddau o fewn y categori hwn ym mhrifysgolion Cymru, sydd efallai’n egluro’r cydbwysedd o blaid prifysgolion y tu allan i Gymru.
Mae modd chwarae o gwmpas gyda’r data ar wefan UCAS yma (o dan Darparwr > Ceisiadau a derbyniadau)
*Y cyfyngiadau i’w cadw mewn cof:
- Mae’r data hwn ond yn cyfeirio at israddedigion yr oedd eu lleoedd wedi’u derbyn ar gyfer y flwyddyn 2022
- Nid oes modd mynd i fwy o fanylder o ran y pynciau. Er enghraifft, ni allwch ddarganfod y cyrsiau penodol y mae pobl o Gymru yn eu dilyn