Cwis Mawr Cymru yn dychwelyd: cysylltwch â myfyrwyr Cymreig ledled y DU
16 Medi 2026
Gwenno Roberts
Bob mis Medi, mae miloedd o fyfyrwyr o Gymru yn cychwyn ar eu bywyd prifysgol ledled y DU. I gyflogwyr sy’n awyddus i ddenu talent Gymreig yn ôl i Gymru ar ôl graddio, mae hynny’n codi hen gwestiwn: sut ydych chi’n eu cyrraedd tra maen nhw i ffwrdd?
Wel, i’r gad daw Cwis Mawr Cymru Darogan.
Nawr, mae’n debyg nad ydych chi erioed wedi ystyried cynnwys cyfres o gwisiau tafarn yn eich strategaeth recriwtio graddedigion, ond arhoswch hefo ni…
Ac yntau’n dechrau ar ei drydedd flwyddyn, mae Cwis Mawr Cymru yn dychwelyd i gampysau a dinasoedd ar draws y DU. Bydd tîm Darogan, ar y cyd â Chymdeithas Cymreig y prifysgolion, yn cynnal 20 noson gwis-tafarn ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru, lle bydd timau’n brwydro yn erbyn ei gilydd i weld pa gymdeithas ddaw i’r brig. Meddyliwch am University Challenge, ond ychydig yn fwy Cymreig ac – yn ein barn ni – yn llawer fwy o hwyl!
Trwy gyfarfod â’r myfyrwyr lle maen nhw, gan roi’r cyfle iddyn nhw ymgysylltu â ni mewn awyrgylch cymdeithasol, rydyn ni’n dod i adnabod yr ymgeiswyr hyn go iawn, ac yn gallu rhannu gwybodaeth am gyfleoedd eich sefydliad wyneb yn wyneb. Yn ystod y noson, byddwn ni’n dosbarthu’ch taflenni neu ‘freebies’, yn cynnal sgwrs neu’n rhannu cyflwyniad neu fideo am eich swyddi gwag neu gynllun graddedigion – heb sôn am gynnal y cwis, wrth gwrs!
Daeth dros 600 o fyfyrwyr i’r nosweithiau cwis y llynedd, ac maen nhw’n mynd yn fwy poblogaidd byth, gyda sawl cymdeithas eisoes wedi cysylltu â ni i sicrhau slot yn y calendr cyn i’r tymor hyd yn oed ddechrau!
Dydyn ni chwaith ddim yn dewis y prifysgolion hyn ar hap. Rydyn ni’n dadansoddi data poblogaeth myfyrwyr y prifysgolion i nodi lle mae’r niferoedd mwyaf o fyfyrwyr Cymreig yn astudio, gan hefyd dargedu sefydliadau Rhydychen a Chaergrawnt a’r Grŵp Russell er mwyn cyrraedd cymysgedd eang o ymgeiswyr talentog ac ymroddedig.
Fel noddwr Cwis Mawr Cymru, byddwch chi nid yn unig yn codi proffil eich sefydliad ymysg cannoedd o ymgeiswyr dawnus, ond hefyd yn dod yn rhan o’n hymgyrch ehangach i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw a gweithio. Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi’n lle gwych i ddechrau gyrfa, felly gadewch i ni rannu’r neges honno gyda myfyrwyr a graddedigion, gyda’n gilydd!
Os hoffech chi glywed mwy am Cwis Mawr Cymru a’n pecynnau noddi, cysylltwch â Rheolwr Digwyddiadau Darogan, Gwenno, ar [email protected] am sgwrs sydyn.