
Cronfa Gymorth Cymdeithasau Cymreig Darogan yn nôl ar gyfer 2025
6 Awst 2025
Elen Williams
Ar ôl llwyddiant y llynedd, mae Cronfa Gymorth Cymdeithasau Cymreig Darogan yn nôl ac yn barod i gefnogi cymdeithasau prifysgolion Cymru ar draws y DU unwaith eto! Cliciwch yma i wneud cais dros eich cymdeithas.
Rydym yn deall faint o amser, egni a chreadigrwydd sy’n mynd i redeg cymdeithas, yn enwedig pan mae arian yn brin. Dyna yn union pam bod y gronfa hon yn bodoli; i roi’r hwb sydd ei angen i gymdeithasau dyfu a dod â’u cymunedau yn agosach at ei gilydd.
Os yw eich gymdeithas Gymreig yn newydd sbon neu wedi bod yn rhan o’r brifysgol ers blynyddoedd, mae yna groeso i wneud cais.
Eleni, gall cymdeithasau ofyn am hyd at £250 mewn cyllid. Gellir defnyddio’r arian mewn unrhyw ffordd sy’n helpu eich gymdeithas, o offer a deunyddiau i ddigwyddiadau, gweithdai, neu unrhyw beth arall sy’n cael effaith ystyrlon ar eich aelodau.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, uwchlwythwch gais byr o ddim mwy na 500 o eiriau. Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn cynnwys:
- Swm y cyllid rydych chi’n gwneud cais amdano (hyd at £250)
- Sut rydych chi’n bwriadu ei wario
- Pa fath o wahaniaeth fyddai’r gefnogaeth hon yn ei wneud i’ch cymdeithas
Fe greon ni’r gronfa hon i helpu gymdeithasau Cymru, nid yn unig i oroesi ond i lwyddo. Mae’n ymwneud â sicrhau bod gan bob gymdeithas brifysgol, fawr neu fach, y cyfle i ddathlu hunaniaeth Gymreig ac adeiladu rhywbeth gwerthfawr.
Mae ceisiadau nawr ar agor ac yn cau ar y 15fed o Fedi. Gallwch wneud cais yma: https://surveys.darogan.wales/zs/osCapA
Pob lwc!
