
Ble mae myfyrwyr o Ganolbarth Cymru yn astudio?
12 Mawrth 2024
Owain James
Mewn blogbost blaenorol, fe wnes i ystyried Gogledd Cymru, y rhanbarth sydd â’r gyfradd uchaf o fyfyrwyr sy’n gadael Cymru i astudio.
Nesaf i fyny, y rhanbarth gyda’r gyfradd ail uchaf – Canolbarth Cymru!
Gadawodd 45.5% o fyfyrwyr o Ganolbarth Cymru y wlad i astudio yn ôl HESA (2021/22), sydd tua 20% yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol.
)%20(3).png)
Dim ond dau Awdurdod Lleol sydd i ystyried yma – Powys a Cheredigion. Fel y gallech ddisgwyl, mae gan Bowys gyfradd uchel o ‘ymadawyr’ (52.9%), ac nid yw’n syndod o ystyried bod tua hanner ffin Cymru/Lloegr yn cael ei ffurfio gan Bowys. Mae yna ffactorau eraill hefyd, megis tyniad lleol gwannach (h.y. dim ‘prifysgol leol’ na dinasoedd mawr), ond mae’r ffin hir, hylifol yn sicr yn ffactor mawr. Yn fras, po agosaf yr ydych at Loegr, y mwyaf tebygol y byddwch o adael Cymru i astudio.
Ar y llaw arall, mae gan Geredigion gyfradd is o fyfyrwyr sy’n gadael Cymru (31.8%), sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Eto, nid yw hyn yn syndod o ystyried ei bod yng Ngorllewin Cymru, ac mae ganddi atyniad lleol cryf ar ffurf Prifysgol Aberystwyth (Aberystwyth ei hun yw tref fwyaf Canolbarth Cymru hefyd), yn ogystal â Champws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Fel rydym wedi trafod mewn mannau eraill, mae atyniadau lleol fel hyn yn lleihau nifer y myfyrwyr sy’n gadael Cymru i astudio. Prifysgol Aberystwyth yw’r dewis mwyaf poblogaidd o bell ffordd i fyfyrwyr yr Awdurdod Lleol, yna Y Brifysgol Agored, ac yna yn gydradd drydydd mae’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.
Dau Awdurdod Lleol a chyfraddau gwahanol iawn, ond gyda’i gilydd maent yn cydbwyso ei gilydd.