
Beth mae pobl o Gymru yn ei astudio?
12 Chwefror 2024
Owain James
Rydw i’n aml yn trafod BLE mae pobl o Gymru yn astudio, ond rwy’n meddwl ei bod yr un mor bwysig ystyried BETH y maent yn ei astudio. Wedi’r cyfan, i lawer o gyflogwyr, gyda’r pwyslais cynyddol ar ‘sgiliau’, efallai bod y pynciau y mae pobl yn eu hastudio (a’r cynnwys a’r sgiliau y maent yn eu dysgu ar eu cwrs) yn bwysicach na’r man lle buont yn astudio.
Dyma’r 10 cwrs mwyaf poblogaidd y mae pobl o Gymru yn eu hastudio ar draws y DU (i’r rhai a gofrestrodd yn 2021/22):
)%20(1).png)
Ydych chi wedi synnu? Gan feddwl am fylchau sgiliau presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg yn economi Cymru, beth ydych chi’n meddwl ddylai gael ei gynnwys yn y 10 cwrs gorau?
Gallwch ddod o hyd i fwy o ddata ar yr hyn y mae pobl yn ei astudio mewn prifysgol yn y DU yma os hoffech chi wybod mwy.
Yn anffodus, nid yw HESA yn rhoi’r opsiwn i rannu’r data hwn fesul prifysgol A domisil, ac ni allwn gael darlun clir o’r hyn y mae myfyrwyr o Gymru y tu allan i Gymru yn ei astudio. Byddai’n dda gwybod hyn oherwydd, yn y pen draw, cymaint ag yr ydym am ddenu graddedigion i Gymru, ni ddylem fod yn gwneud hyn er ei fwyn yn unig.
Dywedaf hyn oherwydd bod y ‘draen doniau a’r prinder sgiliau yn ddau fater cydgysylltiedig ond ar wahân y mae Cymru’n eu hwynebu.
Mewn egwyddor, gallem ‘ddatrys’ y draen doniau ar un lefel drwy ddenu mwy o raddedigion i Gymru na’r swm sy’n gadael. Fodd bynnag, pe bai’r graddedigion hyn yn aros neu’n dychwelyd i Gymru ond yn gweithio mewn rolau sgiliau isel, gan adael bylchau sgiliau ehangach yn yr economi heb eu llenwi, byddai problem ‘prinder sgiliau’ yn parhau. Efallai eich bod wedi taro’r marc trwy ddod â’r graddedigion hyn i Gymru, ond wedi methu’r pwynt yn llwyr.