Astudiaeth achos: Bron Afon – Darogan
Case study - bron afon

Astudiaeth achos: Bron Afon

2 Ebrill 2025

Jack Taylor


Trosolwg:

Mae Bron Afon yn sefydliad tai cymdeithasol sy’n ymroi i wella ansawdd bywyd a chyfleoedd i unigolion sy’n byw yn Nhorfaen a’r cymunedau cyfagos. Gyda ffocws ar gefnogi’r rhai sy’n wynebu anfantais a gwaharddiad, eu nod yw creu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb.

Heriau:

Daeth Bron Afon atom gyda dwy her allweddol. Yn gyntaf, roeddent eisiau cynyddu amlygrwydd eu brand ymhlith graddedigion ond roedd amser yn brin i fynychu ffeiriau gyrfa neu ymgysylltu’n uniongyrchol â phrifysgolion, gan ei gwneud yn anodd denu talent raddedig. Yn ail, roedd angen iddynt archwilio’r adnoddau a’r gallu sydd eu hangen arnynt i fynd i’r afael â’r her o ddatgarboneiddio eu stoc tai o dan ofynion newydd ar y sector tai yng Nghymru.

Datrysiad a chanlyniadau:

Er mwyn mynd i’r afael â’r ddwy her, cynigiodd Darogan Talent gyflogi interniaid ar gyfer y prosiect tra ar yr un pryd yn codi proffil brand Bron Afon ymhlith graddedigion. Buom yn gofalu am hysbysebu’r rolau, yn dod o hyd i ymgeiswyr addas, ac yn rheoli’r camau cynefino a chontractio.

Trwy Darogan, darparwyd nifer uchel o ymgeiswyr o safon uchel i Bron Afon. Llwyddwyd i ddarparu tri intern fel gweithwyr asiantaeth, a thrwy gydol y prosiect, parhaodd Darogan i gefnogi Bron Afon trwy edrych ar ôl eu swyddogaethau cyflogres ac adnoddau dynol misol. Roedd hyn nid yn unig yn arbed amser gwerthfawr i Bron Afon ond hefyd yn lleihau eu costau adnoddau dynol, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar amcanion craidd y prosiect.

Beth oedd gan Bron Afon i’w ddweud:

Yn hanesyddol, nid ydym wedi cyflogi llawer o raddedigion nac interniaid, felly roedd y prosiect hwn yn gyfle gwych i fanteisio ar y gronfa dalent hon. Ymatebodd Darogan yn gyflym iawn i’n hanghenion staffio, gan ein cysylltu â’u rhwydwaith helaeth o fyfyrwyr, a bu’n gofalu am dasgau recriwtio ac adnoddau dynol fel hysbysebu, cynefino, contractio a chyflogres.

Rydym wedi plesio’n arw gyda gwasanaeth Darogan, ac mae’r interniaid wedi bod yn llwyddiant mawr. Edrychwn ymlaen at gyflogi mwy o interniaid a graddedigion yn y dyfodol!

Dusi Thomas, Pennaeth Strategaeth Asedau a Buddsoddiad ym Mron Afon