Jack taking to another person

4 Awgrym Syml ar gyfer Ysgrifennu Hysbyseb Swydd i Raddedigion

12 Ionawr 2025

Jack Taylor


Gyda’r farchnad swyddi i raddedigion yn dod yn fwy cystadleuol, beth all cyflogwyr ei wneud i sefyll allan o’r dorf a chreu hysbyseb swydd sy’n apelgar i raddedigion ac sy’n curo’r gystadleuaeth?

Dyma rai awgrymiadau syml i’w hystyried wrth ysgrifennu hysbyseb swydd i raddedigion:

Cadwch ef yn syml

Mae teitl swydd syml gyda’r gair ‘graddedig’ ynddo yn ddechrau da. Dyma’r peth cyntaf y mae ymgeisydd yn ei weld ac ni ddylai fod yn fwy na 2-3 gair – gall unrhyw beth hirach fod yn ddryslyd ac yn llethol a gall atal graddedigion rhag clicio ar eich hysbyseb. Hefyd, ceisiwch osgoi defnyddio jargon a geiriau technegol yng nghorff yr hysbyseb na fyddai graddedig yn ei deall.

Gwerthwch eich dysgu a’ch datblygiad

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwerthu’ch ‘cynnig’ dysgu a datblygu (D&D) gan fod hyn yn ffactor allweddol i raddedigion wrth wneud cais am rolau. Dylai cyflogwyr mwy o faint sy’n cynnig cynlluniau i raddedigion, nodi’r rhaglen hyfforddi strwythuredig a’r cymorth sydd ar gael. Er y gallai cyflogwyr llai o faint ei chael hi’n anodd cynnig rhywbeth mor strwythuredig, gallant barhau i gynnig buddion i raddedigion fel mentoriaeth un i un gyda chyfarwyddwyr/sylfaenwyr yn y cwmni, yn ogystal â dysgu ‘ymarferol’.

Targedwch y graddedigion rydych chi eu heisiau

Mae hysbysebion yn tueddu i berfformio’n well pan fyddant wedi’u targedu at gynulleidfa benodol. Mae dau beth i’w hystyried yma: un yw geiriau allweddol, a’r llall yw atyniad. Dylai eich hysbyseb gynnwys geiriau allweddol rydych chi’n credu bod eich ymgeisydd targed yn eu defnyddio yn y bar chwilio e.e. “Graddedig Marchnata”. Yna hefyd ystyriwch beth fyddai’n ddeniadol i Raddedigion Marchnata? Efallai y gallech werthu eich ‘creadigrwydd’ fel cwmni neu natur greadigol y rôl!  

Meini prawf – osgowch gorfanylu

Cadwch y ‘rhestr hanfodol’ cyn lleied â phosibl. Nodwch pa radd/graddedigion rydych chi eu heisiau gyda dim mwy nag ychydig o bwyntiau bwled o rai sgiliau a phrofiad rydych chi’n chwilio amdano. Dylai eich hysbyseb eu hysbrydoli i wneud cais, nid eu dychryn. A pheidiwch byth â bod y person hwnnw sy’n copïo a gludo’r disgrifiad swydd 10 oed gyda’r rhestr fanyleb hir!

Os oes angen help arnoch i ysgrifennu neu hyrwyddo eich swyddi i raddedigion yng Nghymru, yna cysylltwch â ni ar [email protected]